Rhaglenni Dwys i Gadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd (IFPP)

Statws Testun Cyflawn

Rhaglenni Dwys i Gadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd (IFPP) ar gyfer teuluoedd mewn argyfwng, lle mae risg ar fin digwydd o blant yn gorfod mynd i leoliadau i ffwrdd o’u cartref neu o gael eu rhoi mewn gofal

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu rhaglenni dwys i gadw teuluoedd mewn argyfwng gyda’i gilydd.

Mae’r defnydd o raglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd yn lleihau’r risg o blant yn cael eu lleoli y tu allan i’r cartref. Mae safbwyntiau rhieni a phlant yn cefnogi’r farn bod rhaglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd yn fuddiol ac yn gallu mynd i’r afael ag argyfyngau a allai beri risg y bydd angen i blentyn fynd i ofal. Er bod y dystiolaeth yn gadael rhywfaint o ansicrwydd ynghylch effaith hyn ar les emosiynol ac ymddygiadol plant, mae’n ymddangos nad oes unrhyw dystiolaeth o niwed.

Mae’r dadansoddiad economaidd yn gysylltiedig ag ansicrwydd ond mae’n nodi’r potensial ar gyfer arbedion cost o hyd at £12,171 y plentyn drwy ddefnyddio rhaglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd oherwydd bod lleoliadau y tu allan i’r cartref yn cael eu hosgoi.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae gan blant a phobl ifanc yng Nghymru hawl gyfreithiol i fod yn ddiogel, i chwarae, i gael addysg ac i fod yn iach ac yn hapus. I’r rhan fwyaf o blant, mae’r amgylchedd teuluol yn fan lle gallant ffynnu. Fodd bynnag, mae rhai plant mewn perygl o ddioddef niwed o fewn eu teuluoedd oherwydd camdriniaeth. Pan fo pryderon am les plentyn, efallai y bydd angen i’r gwasanaethau plant ymyrryd, ac er mai eu nod fydd cadw plant yn amgylchedd y teulu, efallai y bydd angen eu tynnu o’r amgylchedd hwn ar gyfer eu diogelwch. Gall ymyriadau wedi’u targedu helpu i ddatrys argyfyngau a chaniatáu i blant aros yn amgylchedd eu teulu yn hytrach na mynd i ofal.

Ymyriadau dwys, tymor byr a ddefnyddir mewn cyfnod o argyfwng pan fo risg bod plentyn ar fin mynd i ofal yw rhaglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd (IFPP). Eu nod yw datrys argyfyngau drwy ddarparu cymorth uniongyrchol i deuluoedd drwy wella sgiliau a gwydnwch a chymorth anuniongyrchol drwy gysylltu teuluoedd â gwasanaethau ychwanegol.

Cynigiwyd y pwnc hwn gan Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd; hefyd wedi’i leoli yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Mae cam-drin plant yn cael effaith negyddol iawn ar les plant. Gall gael effeithiau hirdymor ar ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol a meddyliol y plentyn. Os yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn credu bod plentyn mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol, efallai y bydd angen iddynt roi’r plentyn mewn gofal. Fodd bynnag, lle mae’n ddiogel gwneud hynny, gall y gwasanaethau cymdeithasol gefnogi’r plentyn i aros yn ei gartref. Gellir darparu cymorth penodol i’r teulu i wella eu sefyllfa a chadw’r teulu gyda’i gilydd.

Mae rhaglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd wedi’u hanelu at deuluoedd mewn argyfwng. Maent yn rhai tymor byr ac yn darparu cefnogaeth gynhwysfawr. Mae’r rhaglenni’n helpu teuluoedd i fynd i’r afael â’r problemau y maent yn eu hwynebu. Os oes gwelliant, mae’r risg o niwed i’r plentyn yn lleihau. Mae hyn yn golygu nad yw mwyach yn wynebu’r posibilrwydd o gael ei symud o’i gartref.

Yn ystod yr ymyriad bydd gweithiwr proffesiynol yn gweithio’n agos gyda theulu i asesu ei anghenion. Defnyddir ystod o ddulliau i helpu teuluoedd i ddatblygu sgiliau a mynd i’r afael â materion a allai fod yn ysgogi’r argyfwng. Gall y materion hyn fod yn gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol, yn ogystal ag eraill. Efallai y bydd enwau penodol ar raglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd. Yng Nghymru, ceir y rhaglen “Opsiwn 2”.

Er bod rhaglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd yn cael eu defnyddio yng Nghymru, mae rhai pryderon nad ydynt yn ddigon dwys. Nid yw’n glir a ydynt yn cyrraedd pob teulu mewn argyfwng. Er eu bod ar gael ar hyn o bryd i deuluoedd â phroblemau cyffuriau ac alcohol, gallant fod o fudd i grŵp ehangach o bobl.

Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ynglŷn ag a yw rhaglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd yn gweithio ac yn gwella lles plant a’u rhieni. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu rhaglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd ar gyfer teuluoedd mewn argyfwng.

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR046 03.2024

Canllaw

GUI046 03.2023

GUI

Oherwydd oedi mewn cyhoeddi, cynhaliwyd chwiliad diweddaru ym mis Ionawr 2024, i ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth newydd oedd wedi cael ei gyhoeddi ar ôl i’r pwnc gael ei adolygu gan y Panel Arfarnu ym mis Mawrth 2023. Ni chanfuwyd unrhyw astudiaethau newydd a fyddai’n newid y dystiolaeth sydd yn cael ei chynnwys yn yr Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth (EAR), nac a fyddai’n effeithio ar ganllaw y Panel Arfarnu.

Mae ein dogfennau cyngor yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ond buasem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym pam eich bod chi’n edrych ar ein cyngor.

Hepgor y ffurflen a lawrlwytho ffeil Cau

    Efallai yr hoffem gysylltu â chi trwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch ddefnyddio'r dogfennau.