Rheolyddion calon heb lîd
Statws Testun Anghyflawn
Rheolyddion calon heb lîd i drin bradyarrhythmia
Crynodeb
Gall rhythmau calon annormal achosi curiad calon araf, sydd yn cael ei alw hefyd yn bradyarrhythmia. Os yw bradyarrhythmia o ganlyniad i newidiadau trydanol yn y
galon, y ffordd safonol o’i reoli yw drwy fewnblannu rheolydd calon. Mae rheolyddion calon trawswythiennol confensiynol yn cynnwys generadur pwls dan y croen, gwifrau wedi’u mewnblannu i wythïen sy’n arwain at y galon, ac electrodau wedi’u hatodi i’r galon. Mae rheolyddion calon heb lîd wedi cael eu creu fel y gellir eu mewnblannu’n uniongyrchol i’r galon trwy wythïen y forddwyd.
Bu ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru yn chwilio am dystiolaeth ar effeithiolrwydd clinigol, cost-effeithiolrwydd a diogelwch mewnblannu rheolyddion calon heb lîd i drin bradyarrhythmia o’i gymharu â rheolyddion calon confensiynol.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER574 12.2024