Colangiosgopi drwy’r geg un gweithredwr

Topic Status Complete

Colangiosgopi drwy’r geg un gweithredwr ar gyfer gwerthuso a thrin anhwylderau pancreatig bustl yr afu.

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae colangiosgopi drwy’r geg un gweithredwr (SOPOC) yn dangos addewid ar gyfer gwerthuso a thrin anhwylderau pancreatig bustl yr afu, ond nid oes digon o dystiolaeth i’w gefnogi fel mater o drefn. Yn hytrach, dylid ystyried SOPOC ar gyfer y poblogaethau canlynol:

1. Ar gyfer diagnosis culhad amhenodol, lle bo ERCP confensiynol yn amhendant neu ei fod yn amhriodol.
2. Ar gyfer tynnu’n therapiwtig gerrig dwythell y bustl anodd, pan nad yw dulliau ERCP confensiynol wedi bod yn llwyddiannus neu eu bod yn amhriodol.

Mae SOPOC yn gwella cywirdeb delwedd a diagnosis culhad amhenodol dwythell y bustl. Mae dadansoddiadau economaidd HTW yn dangos bod gan ddefnydd SOPOC ar gyfer diagnosio culhad amhenodol dwythell y bustl y potensial i fod yn gost effeithiol yn dilyn ERCP confensiynol amhendant neu pan nad yw ERCP yn briodol. Mae SOPOC hefyd yn effeithiol mewn clirio cerrig dwythell y bustl anodd ac mae dadansoddiadau economaidd HTW yn dangos bod ganddo’r potensial i arbed costau pan fo dulliau ERCP confensiynol yn aflwyddiannus.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Gall fod yn anodd cael mynediad at anhwylderau dwythell y bustl, megis cerrig, tiwmor neu friwiau dwythell y bustl, ar gyfer diagnosis neu therapi. Gwneir hyn fel arfer drwy ddulliau colangio-pancreatograffeg gwrthredol endosgopig (ERCP), megis brwsio sytoleg neu ledu gyda balŵn ond weithiau bydd y dulliau hyn yn aflwyddiannus neu’n amhriodol.

Yn wahanol i ddulliau ERCP confensiynol, mae colangiosgopi drwy’r geg un gweithredwr (SOPOC) yn gallu gweld system y bustl yn uniongyrchol, casglu biopsi ar gyfer diagnosis a defnyddio dull tynnu cerrig gyda laser.

Awgrymwyd y pwnc hwn drwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC). Ar hyn o bryd mae’r mynediad at SOPOC ar gyfer cleifion cymwys o Gymru drwy geisiadau cyllido cleifion unigol ac yna atgyfeiriad at NHS England.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi asesu defnyddio system lawfeddygol o’r enw colangosgopi drwy’r geg un gweithredwr (SOPOC) ar gyfer pobl sydd ag anhwylderau pancreatig bustl yr afu, fel cerrig pibell y bustl. Mae llawdriniaethau yn y rhan hon o’r system dreulio yn gallu bod yn heriol, gan ei bod hi’n anodd cyrraedd yr ardal. Mae hyn yn golygu y gall llawfeddygon gael trafferth i gael llun clir o’r ardal a hefyd, anawsterau i dynnu’r cerrig bustl. Oherwydd hyn, mae angen i lawfeddygon ddefnyddio llawer o wahanol fathau o offer yn ystod llawdriniaethau ac weithiau, efallai y bydd angen i gleifion gael dwy neu fwy o lawdriniaethau er mwyn cael y canlyniad cywir. Gellir defnyddio SOPOC mewn endosgopi arferol er mwyn cyrraedd mannau anodd a chreu llun clir, gan ei gwneud hi’n haws i lawfeddygon dynnu cerrig sy’n anodd eu cyrraedd. Ar hyn o bryd mae canllaw HTW yn cefnogi defnyddio SOPOC mewn achosion lle mae endosgopi traddodiadol wedi bod yn aflwyddiannus o ran naill ai llwyddo i gael llun clir a/neu dynnu’r cerrig. Nid oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd i gefnogi defnyddio SOPOC wrth berfformio pob endosgopi, ond bydd HTW yn croesawu adolygiad o’r dystiolaeth hon, unwaith y bydd astudiaethau sy’n mynd rhagddynt wedi’u cyhoeddi.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER106 11.2019

TER
View PDF

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR015 01.2020

EAR
View PDF

Arweiniad


GUI015 01.2020

GUI
View PDF

Access our guidance

Our advice documents are free to download, but we would be grateful if you could help us improve our services by telling us why you are looking at our advice and how you intend to use it.

  • We may like to contact you by email to find out more about how you used the documents.

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.