Symbyliad magnetig trawsgreuanol

Statws Testun Cyflawn

Symbyliad magnetig trawsgreuanol i drin iselder

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae’r defnydd o ysgogiad magnetig trawsgreuanol ailadroddus (rTMS) ar gyfer trin iselder mawr sy’n gwrthsefyll triniaeth yn cael ei gefnogi’n rhannol gan y dystiolaeth.

Mae’r defnydd o rTMS yn cael ei oddef yn dda, yn arwain at ostyngiad tymor canolig (hyd at dri mis) yn y sgôr iselder, ac yn gwella cyfraddau ymateb a chyfraddau ysbaid o wellhad o gymharu â thriniaeth ffug.

Mae cryn ansicrwydd ynghylch modelu economaidd de novo. Felly argymhellir ymchwil pellach i bennu’n well yr achos dros effeithiolrwydd cost, i sefydlu effeithiolrwydd hirdymor rTMS gan gynnwys therapi cynnal posibl, ac i benderfynu ar leoliad priodol rTMS yn llwybr triniaeth GIG Cymru.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Gall iselder mawr gael effaith wanychol ar fywyd a lles person. Mae’r symptomau’n amrywio ond yn aml maent yn cynnwys teimladau o anobaith, fawr ddim diddordeb neu bleser mewn gweithgareddau a lleihad mewn hunanwerth. Gall iselder effeithio ar allu person i gyflawni tasgau pob dydd neu gymryd rhan mewn bywyd gwaith a chymdeithasol, yn ogystal ag effeithio’n negyddol ar berthynas â theulu a ffrindiau. Gall opsiynau o ran triniaeth gynnwys meddyginiaeth gwrth-iselder a therapïau siarad. Fodd bynnag, mewn rhai achosion bydd gwrth-iselyddion yn cael effaith gyfyngedig neu ddim effaith ar yr iselder; gelwir hyn yn iselder sy’n gwrthsefyll triniaeth neu’n anodd ei drin. Mewn rhai achosion difrifol cynigir therapi electrogynhyrfol (ECT), ond anaml y caiff hwn ei ddefnyddio yng Nghymru. Mae ysgogiad magnetig trawsgreuanol ailadroddus (rTMS) yn dechneg niwroysgogiad anfewnwthiol nad oes angen anesthesia arni a gellir ei gwneud mewn lleoliad cleifion allanol, heb fawr o gyfnod ymadfer, os o gwbl. Fe’i hystyrir fel arfer ar gyfer iselder sy’n gwrthsefyll triniaeth, neu lle mae gwrth-iselyddion yn anaddas neu’n cael eu goddef yn wael.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Anhwylder sy’n effeithio ar dymer yw iselder, sy’n achosi teimlad parhaus o dristwch sydd yn gallu para o wythnosau i fisoedd. Mael iselder yn gallu arwain at golli diddordeb, ac mae’n gallu effeithio ar allu unigolyn i gyflawni tasgau bob dydd. Mae’n effeithio ar sut rydych chi’n teimlo, yn meddwl ac yn ymddwyn, ac yn gallu arwain at amrywiaeth o broblemau emosiynol a chorfforol. Mae symptomau iselder yn cynnwys teimlo’n anhapus neu’n anobeithiol, heb lawer o hunan-barch, a dim yn gallu dod o hyd i unrhyw bleser mewn pethau rydych chi’n eu mwynhau fel arfer. Mae llawer o bethau yn gallu achosi iselder, fel digwyddiadau llawn straen, personoliaeth, hanes teuluol a rhoi genedigaeth. Gellir rheoli iselder drwy feddyginiaethau, fel gwrthiselyddion, therapïau siarad, newidiadau i ffordd o fyw a therapi electrogynhyrfol (ECT). Fodd bynnag, ni fydd pawb yn ymateb i driniaethau yn yr un ffordd.

Mae symbyliad magnetig trawsgraneuol (TMS) yn cynnwys gosod coil electromagnetig yn erbyn y pen. Mae’r coil yn anfon pylsiau ailadroddus o ynni magnetig ar amlder sefydlog i rannau penodol o’r ymennydd. Mae’r ysgogiad yn gallu gwella’r symptomau o iselder a phryder. Fel arfer, mae’r driniaeth hon yn cael ei hystyried ar gyfer cleifion sydd yn dioddef o iselder ac sydd heb ymateb i feddyginiaethau gwrth-iselder, neu ar gyfer cleifion yr ystyrir sydd ddim yn addas i gael meddyginiaeth gwrth-iselder.

Edrychodd HTW am dystiolaeth o effeithiolrwydd TMS fel ymyriad ar gyfer iselder lle mae triniaethau traddodiadol, fel gwrthiselyddion, wedi methu. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi’n rhannol defnyddio TMS i drin iselder mawr sy’n gwrthsefyll triniaeth, ac argymhellir ymchwil bellach.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER247 05.2021

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR035 11.2021

Dogfennau ychwanegol

Access our guidance

Our advice documents are free to download, but we would be grateful if you could help us improve our services by telling us why you are looking at our advice and how you intend to use it.

  • bod posibiliad yr hoffem gysylltu â chi drwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch chi ddefnyddio'r dogfennau.

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.