Symbylu’r nerf sacrol
Statws Testun Cyflawn
Symbylu’r nerf sacrol ar gyfer anymataliaeth ysgarthol.
Canlyniad yr arfarniad
Mae TIC yn cynghori bod y dystiolaeth sydd ar gael yn cefnogi defnyddio symbylu’r nerf sacrol i drin anymataliaeth ysgarthol, ond dim ond mewn achosion lle nad yw’r cyflwr wedi ymateb i reolaeth gonfensiynol.
Dim ond i bobl sydd ag anymataliaeth ysgarthol y dylid cynnig triniaeth symbylu’r nerf sacrol, yn unol â’r meini prawf a amlinellir yng Nghanllaw Clinigol 49 Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (Anymataliaeth ysgarthol mewn oedolion: rheoli).
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Triniaeth ydy symbylu’r nerf sacrol (SNS) ar gyfer anymataliaeth ysgarthol sy’n cynnwys ysgogi trydan foltedd isel, uniongyrchol, cronig, ar wreiddiau’r nerfau sacrol. Mae ar gael drwy’r GIG mewn rhai rhannau eraill o’r DU, ond nid drwy’r GIG yng Nghymru. Bwriedir i’r SNS gael ei ddefnyddio mewn pobl sydd ddim yn gallu rheoli eu hanymataliaeth ysgarthol trwy ddulliau mwy confensiynol. Yn yr achosion hyn, mae dewisiadau eraill fel stoma neu atgyweirio’r sffincter yn gysylltiedig â chostau a chyfraddau morbidrwydd sylweddol, ac nid ydynt bob amser yn darparu digon o ryddhad i’r claf.
Ystyriwyd ailasesu’r canllawiau hyn ym mis Rhagfyr 2021. Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid, daeth ein Grŵp Asesu i’r casgliad i beidio â bwrw ymlaen gyda’r ailasesiad ar hyn o bryd.
Crynodeb mewn iaith glir
Asesodd HTW weithdrefn symbyliad nerf sacrol (SNS) er mwyn helpu i benderfynu a ddylai fod ar gael i drin cleifion yn y GIG yng Nghymru.
Mae’r driniaeth hon ar gyfer pobl sy’n cael problemau i reoli symudiadau eu coluddyn ac yn rhyddhau carthion yn annisgwyl. Mae hwn yn gyflwr sy’n peri anabledd ac embaras yn gyhoeddus. Weithiau gellir rheoli anymataliaeth carthion gyda thriniaethau traddodiadol megis defnyddio swmpfwydydd, ffisiotherapi a newidiadau mewn diet, ond nid yw’r rhain yn gweithio bob amser.
Mae SNS yn anfon curiadau trydanol cryfder isel wedi’u targedu at wreiddiau’r nerf sacrol. Mae tystiolaeth y gall leihau pa mor aml y mae pobl yn dioddef o anymataliaeth. Mae SNS yn ddrytach na thriniaeth draddodiadol, ond mae’n dal yn werth da am arian.
Mae Canllaw HTW yn cefnogi defnydd symbyliad nerf sacrol pan nad yw cleifion wedi ymateb i driniaethau traddodiadol a’u bod yn bodloni’r maen prawf yng Nghanllaw 49 y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER001 04.2018
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR003 06.2018
Canllaw
GUI003 06.2018
Ystyriwyd ailasesu’r canllawiau hyn ym mis Rhagfyr 2021. Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid, daeth ein Grŵp Asesu i’r casgliad i beidio â bwrw ymlaen gyda’r ailasesiad ar hyn o bryd.
Access our guidance
Our advice documents are free to download, but we would be grateful if you could help us improve our services by telling us why you are looking at our advice and how you intend to use it.