Systemau selio pibellau deubegwn electrolawfeddygol datblygedig yn ystod hysterectomi
Statws Testun Cyflawn
Defnyddio systemau selio pibellau deubegwn electrolawfeddygol datblygedig ar yn ystod hysterectomi, o’i gymharu â defnyddio ffyrdd eraill ar gyfer rheoli gwaedu.
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi’n rhannol y dylid mabwysiadu selio pibellau gwaed deubegwn electrolawfeddygol datblygedig (ABVS) mewn pobl sy’n cael hysterectomi:
- Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu ABVS fel mater o drefn i’w ddefnyddio yn ystod hysterectomi y wain.
- Er bod ABVS yn dangos addewid i’w ddefnyddio yn ystod hysterectomi abdomenol a hysterectomi laparosgopig, nid yw’r dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn. Gellid ystyried ABVS yn ddetholus lle mae barn glinigol yn cefnogi ei ddefnydd mewn achosion cymhleth, megis yn y rheini sydd â mynediad pelfig anoddach.
Dangosodd y dystiolaeth a nodwyd fod amser llawdriniaeth yn fyrrach pan ddefnyddir ABVS yn ystod hysterectomi y wain ac amcangyfrifodd dadansoddiad cost a chanlyniad HTW ei fod yn arbed ychydig o ran cost o’i gymharu â phwytho.
Er bod y dystiolaeth effeithiolrwydd yn dangos bod colli gwaed a’r risg o fod angen trallwysiad gwaed yn is pan ddefnyddir ABVS yn ystod hysterectomi abdomenol, amcangyfrifodd y dadansoddiad cost a chanlyniad ei fod yn gostus o’i gymharu â phwytho.
Canfuwyd y collir llai o waed pan ddefnyddir ABVS yn ystod hysterectomi laparosgopig rhannol ac roedd yr amser llawdriniaeth yn fyrrach yn ystod hysterectomi laparosgopig llawn. Fodd bynnag, amcangyfrifwyd bod defnyddio ABVS yn gostus ar gyfer hysterectomi laparosgopig o’i gymharu â selio pibellau gwaed deubegwn electrolawfeddygol (EBVS) confensiynol.
Mae HTW yn argymell casglu data ar ganlyniadau clinigol a chanlyniadau economaidd iechyd, gan gynnwys ansawdd bywyd, o ddefnydd pob dyfais ABVS yng Nghymru, gan adlewyrchu’r defnydd mewn cyd-destunau clinigol mater o drefn a chymhleth.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Gweithdrefn lawfeddygol i dynnu’r groth yw hysterectomi; fe’i cynhelir i drin amrywiol faterion sy’n effeithio ar system atgenhedlu’r fenyw. Mae’n bwysig rheoli gwaedu mewndriniaethol yn ystod hysterectomi a’r gofal safonol presennol ar gyfer hysterectomi y wain ac abdomenol yw pwytho, electrolawfeddygaeth un pegwn, neu selio pibellau gwaed deubegwn electrolawfeddygol (EBVS) confensiynol, tra mai’r gofal safonol ar gyfer hysterectomi laparosgopig yw EBVS datblygedig (ABVS).
Mae ABVS yn gwella ar EBVS confensiynol trwy ddefnyddio cerrynt uwch a foltedd is, sy’n caniatáu oeri meinwe, a thrwy fesur ymwrthedd y meinwe i lif y cerrynt trydanol (rhwystriant meinwe). Trwy fesur rhwystriant meinwe, gall y dyfeisiau ddiffodd y cerrynt yn awtomatig pan lwyddir i atal y gwaedu a chyfyngu ar ledaeniad thermol i’r meinwe cyfagos. Gellir defnyddio dyfeisiau ABVS ar bibellau gwaed a bwndeli meinwe hyd at 7mm o drwch, o’i gymharu â dim ond 2mm ar gyfer EBVS confensiynol. Mae HTW wedi gwerthuso ABVS gan ei fod wedi’i asesu o’r blaen i fod â photensial sylweddol i arbed costau a gall gynnig canlyniadau clinigol gwell na’r gofal safonol presennol.
Awgrymwyd y pwnc hwn i HTW drwy Wasanaeth Arloesi’r GIG.
Crynodeb mewn iaith glir
Gweithdrefn lawfeddygol lle mae’r groth yn cael ei thynnu allan yw hysterectomi. Mae’r rhesymau mwyaf cyffredin dros gael hysterectomi yn cynnwys mislif trwm, poen pelfig, canser neu brolaps. Mae angen rheoli gwaedu wrth i’r llawfeddyg gynnal y llawdriniaeth. Mae sawl ffordd y gellir rheoli gwaedu.
Mae systemau selio pibellau gwaed deubegwn electrolawfeddygol (EBVS) yn rheoli gwaedu trwy selio’r pibellau gwaed â cherrynt trydanol. Mae systemau EBVS datblygedig (ABVS) yn defnyddio cerrynt uwch a foltedd is, ac yn mesur ymwrthedd meinwe i lif trydanol i addasu’r rhain, sy’n caniatáu oeri meinwe yn ystod y defnydd ac yn lleihau difrod gwres i feinweoedd cyfagos. Cynigir hyn i leihau swm y gwaedu yn ystod llawdriniaeth, gan arwain at lai o boen i gleifion yn ystod adferiad ac arosiadau byrrach yn yr ysbyty.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar systemau EBVS datblygedig yn ystod hysterectomi. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu ABVS yn rhannol mewn pobl sy’n cael hysterectomi.
Canllaw
GUI065 03.2025
Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR065 03.2025
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER423 02.2024 (superseded by EAR065 03.2025)