Systemau titradu ocsigen awtomataidd (FreeO2 system)

Statws Testun Cyflawn

Systemau titradu/gweinyddu ocsigen awtomataidd ar gyfer cleifion mewn ysbytai sydd angen ocsigen

Crynodeb

 

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar systemau titradu/gweinyddu ocsigen awtomataidd mewn pobl sydd angen ocsigen yn yr ysbyty oherwydd cyflyrau fel syndrom trallod anadlol acíwt neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â datblygu’r pwnc hwn ymhellach, gan ei fod yn ymddangos bod y sylfaen dystiolaeth i gefnogi ei ddefnyddio yn dal i gael ei ddatblygu.