Therapi plasma ymadfer ar gyfer trin COVID-19
Statws Testun Cyflawn
Therapi plasma ymadfer ar gyfer trin COVID-19
Crynodeb
Ystyriodd Grŵp Asesu HTW y dystiolaeth a gyflwynwyd yn fersiwn derfynol adolygiad cydweithredol treigl EUnetHTA ac Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth HTW 032. Penderfynwyd na fyddai gwerth mewn creu canllawiau, gan fod casglu plasma ymadfer wedi dod i ben yng Nghymru, ac nid oes unrhyw gynlluniau i barhau i ddefnyddio’r ymyriad hwn ar gyfer pobl sydd â COVID-19. Oherwydd hyn, fe wnaethant argymell cyhoeddi’r adolygiad arfarnu tystiolaeth heb unrhyw gamau pellach.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae’r clefyd coronafeirws (COVID-19) yn glefyd heintus sydd yn cael ei achosi gan y feirws SARS-CoV-2. Bydd gan y rhan fwyaf o bobl sydd wedi’u heintio â’r feirws symptomau ysgafn i gymedrol sy’n gwella heb fod angen triniaeth arbennig arnynt. Fodd bynnag, gall COVID-19 fod yn salwch difrifol sy’n cael effaith amrywiol ar systemau niferus y corff, ac sy’n golygu bod rhaid i bobl fynd i’r ysbyty, weithiau i gael triniaeth ddwys. Mae therapi plasma ymadfer wedi cael ei awgrymu i wella canlyniadau i bobl sydd â COVID-19, drwy ddarparu imiwnedd goddefol i amddiffyn person nes bod ei system imiwnedd ei hun yn datblygu gwrthgyrff sydd yn gallu goresgyn y clefyd.
Dechreuodd Technoleg Iechyd Cymru (HTW) adolygu’r pwnc hwn i ddechrau fel rhan o gydweithrediad Rhwydwaith Ewropeaidd (EUnetHTA) gyda nifer o asiantaethau asesu technoleg iechyd partner ac yna, cwblhawyd adolygiad arfarnu tystiolaeth HTW yn seiliedig ar y gwaith hwn. Nod yr adolygiad oedd archwilio effeithiolrwydd therapi plasma ymadfer i bobl sydd â COVID-19.
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR032 03.2022