Trawsblaniad bôn-gell gwaedfagol awtologaidd
Topic Status Complete
Trawsblaniad bôn-gell gwaedfagol awtologaidd ar gyfer sglerosis ymledol atglafychol-ysbeidiol sydd wedi’i drin yn flaenorol.
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu trawsblaniad bôn-gell gwaedfagol awtologaidd (AHSCT) fel mater o drefn ar gyfer cleifion sydd â sglerosis ymledol atglafychol-ysbeidiol sydd wedi’i drin yn flaenorol (RRMS) mewn cleifion sydd â symptomau sy’n dod yn ôl.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Cyflwr a nodweddir gan batrwm rheolaidd o symptomau niwrolegol sy’n peri anabledd yw sglerosis ymledol atglafychol-ysbeidiol (RRMS). Dros amser bydd tua dwy ran o dair o gleifion yn datblygu anabledd sy’n gwaethygu ac mae’r diagnosis yn esblygu i sglerosis ymledol gwaethygol eilaidd. Y driniaeth safonol ar gyfer RRMS yw therapïau addasu clefydau (DMT) wedi’u targedu ar y system imiwnedd sy’n fwyaf tebygol o fod yn effeithiol ar gyfer cam atglafychol-ysbeidiol MS ond sy’n llai effeithiol wrth i’r clefyd ddatblygu. Oherwydd diffyg therapïau effeithiol ar gyfer MS gwaethygol, mae’n bwysig trin RRMS yn gynnar ac yn ffyrnig fel y gellir oedi neu atal datblygiad y clefyd. Triniaeth cleifion mewnol, dwys ac untro yw trawsblaniad bôn-gell gwaedfagol awtologaidd (AHSCT) sydd â’r nod o ailosod system imiwnedd claf. Yn seiliedig ar y nifer a amcangyfrifir o bobl yng Nghymru sydd ag RRMS, mae arbenigwyr clinigol yn amcangyfrif bod carfan fechan o bobl sydd chlefyd nas rheolir yn ddigonol er gwaethaf DMT effeithiol iawn a allai fod yn gymwys ar gyfer triniaeth gydag AHSCT. Nid oes AHSCT ar gyfer cleifion sydd ag MS yn bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru, er bod rhai cleifion o Gymru wedi derbyn triniaeth AHSCT yn Lloegr gan iddynt gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil.
Crynodeb mewn iaith glir
Cyflwr y brif system nerfol yw sglerosis ymledol (MS) a all effeithio ar yr ymennydd, coesyn yr ymennydd a’r meingefn ac mae’n gwaethygu’n raddol dros amser. Mae MS yn achosi llid sy’n difrodi celloedd y brif system nerfol. Gall pobl sydd ag MS ddioddef o ludded, anhwylderau symud, problemau gyda’r golwg, lleihad mewn symudedd, problemau’r bledren a phroblemau iechyd meddwl. Mae llawer o fathau o feddyginiaethau therapïau addasu clefydau (DMT) a roddir i gleifion sydd ag MS.
Gweithdrefn unwaith yn unig yw trawsblaniad bôn-gell gwaedfagol awtologaidd (AHSCT) a’i nod yw ailosod system imiwnedd y claf ac felly atal ymlediad y clefyd. Gweithdrefn lawfeddygol ydyw sydd â pherygl o heintiad ac felly fe’i cynigir ar gyfer cleifion sydd â chlefyd sy’n ymledu’n gyflym ac nad sy’n gallu cael ei reoli’n dda gyda DMT. Mae AHSCT yn golygu nifer o gamau cymhleth a gallai gymryd nifer o fisoedd i adsefydlu wedi’r weithdrefn. Gan fod AHSCT mor gymhleth, dim ond unedau arbenigol all gyflawni’r weithdrefn.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth bod trawsblaniad bôn-gell gwaedfagol awtologaidd (AHSCT) yn driniaeth effeithiol a chost effeithiol ar gyfer sglerosis ymledol atglafychol-ysbeidiol sydd wedi’i drin yn flaenorol (RRMS). Ar y cyfan, dangosodd y dystiolaeth bod gan AHSCT y potensial i wella’r cyflwr. Mae gan gleifion sydd ag RRMS sydd wedi cael AHSCT well ansawdd bywyd na phobl sy’n derbyn DMT. Mae AHSCT hefyd yn llai drud na DMT.
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu trawsblaniad bôn-gell gwaedfagol awtologaidd (AHSCT) fel mater o drefn ar gyfer cleifion sydd â sglerosis ymledol atglafychol-ysbeidiol sydd wedi’i drin yn flaenorol (RRMS) y mae eu symptomau’n ail-ddigwydd.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER107 (07.20)
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR019 (07.20)
Arweiniad
GUI019 (07.20)