Ymyriad Strategaethau ar gyfer Perthnasau (START)
Statws Testun Cyflawn
Ymyriad Strategaethau ar gyfer Perthnasau (START) i wella iechyd meddwl gofalwyr pobl sydd â dementia
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu fel mater o drefn yr ymyriad Strategaethau ar gyfer Perthnasau (START) ar gyfer gofalwyr pobl sydd â dementia.
Mae defnyddio START yn arwain at leihad mewn symptomau iselder a gwelliant mewn ansawdd bywyd gofalwr o gymharu â gofal arferol. Mae manteision i’w gweld yn y tymor byr
ond hefyd fe’u cynhelir dros gyfnod hwy.
Mae modelu economeg iechyd yn awgrymu bod START yn gost effeithiol o gymharu â gofal arferol gyda chymhareb cost-effeithiolrwydd gynyddol (ICER) o £12,400 fesul QALY a gallai arwain at arbedion mewn costau pan fo budd a chostau ar gyfer derbynwyr gofal hefyd yn cael eu hystyried.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Gofalir am y mwyafrif helaeth o bobl sydd â dementia yn y cartref ac amcangyfrifir bod 700,000 o bobl yn y DU yn gweithredu fel gofalwyr anffurfiol di-dâl. Nodweddir dementia gan anawsterau gyda gwybyddiaeth, ymddygiad, perfformiad echdynnol a gweithrediad pob dydd. Gall natur a hyd a lled yr anawsterau hyn amrywio yn ôl cam y datblygiad ac is-fath y dementia. Oherwydd yr anawsterau hyn, efallai y bydd angen cefnogaeth ar bobl sydd â dementia gan berthnasau agos neu ffrindiau.
Mae rhoi gofal yn peri heriau difrifol a gall fod yn brofiad o bwysau mawr sy’n rhoi straen ar berthynas a lles. Mae amcangyfrifon diweddar yn awgrymu bod cyffredinolrwydd pryder ac
iselder ar ganran o dros 30% ymhlith gofalwyr ac efallai bod pandemig COVID-19 wedi gwaethygu’r sefyllfa hon. Mae mynd i’r afael â’r mater hwn yn bwysig iawn er mwyn sicrhau
iechyd a lles gofalwyr sy’n chwarae rôl hanfodol mewn cymdeithas ac i atal methiant gofal a allai arwain at leoliad mewn gofal preswyl yn gynt nad sydd ei angen. Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod ymyriadau seicolegol effeithiol yn chwarae rôl bwysig mewn cefnogi gofalwyr ond prin yw’r hyn sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.
Ystyriodd HTW y pwnc hwn ar ôl iddo gael ei gynnig gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae dementia yn disgrifio casgliad o symptomau sy’n gallu cynnwys ymyriad ar y gallu i gofio, meddwl, gwneud penderfyniadau a newidiadau mewn hwyliau neu ymddygiad. Achosir dementia pan fydd yr ymennydd yn cael ei niweidio gan glefyd ac mae gwahanol fathau o ddementia i’w gael yn dibynnu ar y clefyd neu’r math o niwed. Dementia Alzheimer yw’r math mwyaf cyffredin yn y DU. Er bod dementia yn effeithio ar oedolion hŷn yn bennaf, nid yw’n rhan normal o heneiddio. Gallai pobl â dementia golli eu cof, eu sgiliau ieithyddol, canfyddiad gweledol, y gallu i ddatrys problemau, hunanreolaeth a’r gallu i ganolbwyntio a thalu sylw, a gall hyn amharu ar eu gallu i gyflawni tasgau. Mae’r mwyafrif o bobl sydd â dementia yn y DU yn byw gartref a bydd llawer yn dibynnu ar aelodau’r teulu a ffrindiau i’w helpu gyda thasgau pob dydd na allant eu cyflawni eu hunain.
Gall darparu gofal gartref olygu gofal ymarferol, personol ac emosiynol. Mae nifer o elfennau cadarnhaol sy’n gysylltiedig â gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind gartref. Fodd bynnag gall gofalu beri heriau difrifol a bod yn brofiad llawn straen. Gall gofalwyr fod â chyfraddau uchel o broblemau iechyd meddwl o gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol ac mae’n ymddangos bod y galwadau sy’n gysylltiedig â gofalu yn chwarae rôl bwysig iawn yn hyn. Mae hi felly’n bwysig y cynigir cefnogaeth i ofalwyr er mwyn eu helpu i reoli eu lles eu hunain. Gall y gefnogaeth hon fod ar ffurf gofal iechyd meddwl, gan gynnwys ymyriadau seicolegol, sef camau gweithredu neu weithgareddau a gyflawnir er mwyn sicrhau newid mewn ymddygiad, cyflwr emosiynol neu deimladau unigolyn.
Edrychodd HTW ar y sail dystiolaeth ar gyfer y rhaglen Strategaethau ar gyfer Perthnasau sydd â’r nod o wella lles meddyliol rhoddwyr gofal di-dâl. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu fel mater o drefn yr ymyriad Strategaethau ar gyfer Perthnasau (START) ar gyfer gofalwyr pobl sydd â dementia.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER230 02.2021
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR031 09.2021
Canllaw
GUI031 10.2021