Swydd Wag: Economegydd Iechyd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Economegydd Iechyd brwdfrydig ymuno â’n tîm cynyddol yn Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wrth i ni gyflwyno ein cyfnod cyffrous nesaf.
Mae HTW yn gyfrifol am adnabod, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd ar draws GIG Cymru, gan gysylltu ag agendâu cenedlaethol ar gyfer arloesi a gofal iechyd darbodus. Mae HTW yn gyfrifol am arfarnu goblygiadau clinigol a chost technolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaeth yng Nghymru, gan weithio gyda GIG Cymru, ond yn annibynnol hefyd.
Rydym eisiau recriwtio Economegydd Iechyd parhaol, amser llawn, i ddarparu dadansoddiadau economeg iechyd a modelu cost-effeithiolrwydd i gefnogi rhaglen waith Technoleg Iechyd Cymru (HTW) a’i Dîm Ymchwil. Bydd y deiliad swydd yn defnyddio ystod o dechnegau gwerthuso economaidd ac effaith ar adnoddau i gefnogi grwpiau asesu technoleg HTW.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Dyddiad Cau: 12th Awst 2021
Cliciwch yma – darllenwch yr hysbyseb i gael gwybodaeth lawn am y swydd.