Technoleg Iechyd Cymru i gynghori bwrdd cenedlaethol PET-CT

Rydym wedi ymuno â gweithgor cenedlaethol ar Domograffeg Gollwng Positronau – sganiau Tomograffeg Gyfrifiadurol (PET-CT).
Mae Matthew Prettyjohns, ein Prif Ymchwilydd, wedi dod yn gynghorydd i Fwrdd Rhaglen Strategol PET-CT, sy’n rhan o Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC). Nod y grŵp yw datblygu achos busnes strategol ar gyfer gwasanaethau PET-CT yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae WHSSC yn gydbwyllgor y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru, ac mae’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau PET-CT yng Nghymru. Mae WHSSC wedi dirprwyo cyfrifoldeb i gomisiynu amrywiaeth o wasanaethau arbenigol er mwyn sicrhau mynediad teg at wasanaethau arbenigol diogel, effeithiol a chynaliadwy i bobl Cymru.
Cysylltiedig:
Mae WHSSC yn defnyddio Canllawiau cyhoeddedig Technoleg Iechyd Cymru ac Asesiadau Technoleg Iechyd (HTA) i lywio ei benderfyniadau a chomisiynu technolegau arbenigol nad ydynt yn feddyginiaeth i gleifion sy’n byw yng Nghymru.
Ym mis Ionawr 2019, fe gyhoeddom Ganllaw ar radiodraswyr tomograffeg gollwng positronau (PET) antigen pilen prostad-benodol (PSMA) galiwm neu fflworin mewn ymchwilio i ganser y prostad dychweliadol.
Cliciwch yma i ddarllen ein Canllaw.