Newyddion

13 Chwefror, 2020

Technoleg Iechyd Cymru yn creu effaith yn 2019

Cawsom ein sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017 i gefnogi dull cenedlaethol o nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd.

Drwy gydol 2019, cynigiwyd mwy na 65 o bynciau technoleg i ni eu harfarnu. Denodd cysylltiadau traws-sectoraidd cryf y cynigion pwnc hyn gan GIG Cymru, diwydiant, y trydydd sector, Llywodraeth Cymru ac academia.

Fel sefydliad annibynnol, mae ein gwaith yn cynnwys unrhyw dechnoleg iechyd nad yw’n feddyginiaeth, fel dyfeisiau meddygol, triniaethau llawfeddygol, therapïau seicolegol, telefonitro neu adsefydlu.

Mae’r cylch gwaith eang hwn wedi arwain at raglen waith brysur dros y flwyddyn ddiwethaf. Aeth 10 o’r cynigion pwnc ymlaen i gael arfarniadau llawn o dystiolaeth, lle mae ein tîm yn gweithio gydag arbenigwyr i bennu eu heffeithiolrwydd a’u cost-effeithiolrwydd. Yn dilyn hynny, cyhoeddwyd chwe Canllaw gan HTW yn ystod 2019. Rhoddir y Canllawiau i gomisiynwyr gofal i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ynghylch a ddylid buddsoddi, neu hyd yn oed ddadfuddsoddi, mewn technoleg iechyd.

Meddai Dr Susan Myles, ein Cyfarwyddwr: “Rydym yn amcangyfrif y gallai canllawiau’r cyngor a gyhoeddwyd gennym yn 2019 effeithio ar fwy na 53,000 o bobl yng Nghymru. Mae ein Canllawiau yn gwella gofal ar gyfer nifer fawr o bobl, ac yn ymwneud â nifer o feysydd clinigol, megis canser, diabetes a breichiau prosthetig. Mae ganddo’r potensial i arbed mwy na £3.1m* i wasanaethau iechyd Cymru. Gellir teimlo’r effaith hon ar draws iechyd a gofal yng Nghymru, ac mae’n cefnogi defnydd mwy effeithlon o adnoddau.”

Mae ein cyrhaeddiad yn cael ei ymestyn drwy gynghreiriau strategol gyda nifer o sefydliadau allweddol ar draws iechyd a gofal. Roedd y partneriaid cenedlaethol a rhyngwladol newydd ar gyfer 2019 yn cynnwys Comisiwn Bevan, Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban, yr Awdurdod Gwybodaeth ac Ansawdd Iechyd, a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Mae’r cysylltiadau hyn wedi ein helpu i dyfu ein henw da, wedi gwella mynediad at arbenigwyr, ac wedi cynyddu statws ein gwaith.

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Effaith HTW ar gyfer 2019

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol HTW ar gyfer 2018-19

* Mae’r ffigur hwn yn seiliedig ar y dybiaeth y byddai cynnydd o 50% yn y defnydd o dechnoleg yn absenoldeb canllawiau HTW.