Newyddion

24 Gorffennaf, 2025

Technoleg Iechyd Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2024/25

 

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2024/25.

 

Yn ystod 2024-25, fe wnaethom ystyried 58 o atgyfeiriadau pwnc newydd a chyhoeddi 8 o ddogfennau canllaw newydd HTW, yn ogystal â 54 o Adroddiadau Archwilio Pwnc.

 

Roedd ein canllawiau cenedlaethol yn trafod pynciau yn amrywio o offer digidol ar gyfer rheoli diabetes i’r prawf ffibrosis yr afu uwch, ac yn cynnwys technolegau arloesol artiffisial fel endosgopi â chymorth AI ar gyfer canser gastroberfeddol.

 

Dangosodd ein hadroddiad archwilio mabwysiadu diweddaraf fod lefel uchel o ymwybyddiaeth o ganllawiau HTW yn GIG Cymru, a bod ein canllawiau yn cael effaith sylweddol ar wneud penderfyniadau.

 

Drwy gydol 2024/25, fe wnaethom gydweithio gyda phartneriaid ar draws y DU i helpu i hybu datblygu technolegau iechyd arloesol. Roedd hyn yn cynnwys gweithio ar y cyd â phartneriaid clinigol i ddatblygu canllawiau ar gyfer arfarnu technolegau AI.

 

Yn nhymor y Gwanwyn 2024, cawsom ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i lunio adroddiad cynghori a fyddai’n cefnogi datblygu ecosystem Technoleg Feddygol Cymru. Arweiniodd hyn at 22 o argymhellion yn ymdrin â themâu megis cylch bywyd Technoleg Feddygol, nodi pynciau, rheoleiddio a chynaliadwyedd.

 

Rydym hefyd wedi parhau â’n gwaith fel Partner Cydweithredu Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac wedi cynnal adolygiadau cyflym gyda’r nod o ddarparu’r ymchwil ddiweddaraf i gefnogi gwneud penderfyniadau iechyd a gofal yng Nghymru.

 

Yn y cyfamser, rydym wedi sefydlu partneriaeth newydd gyda’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) i sicrhau ein bod yn rhannu gwybodaeth am fylchau mewn tystiolaeth a nodwyd yn ystod ein proses arfarnu.

 

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi, ein rhanddeiliaid, am eu cefnogaeth barhaus i’n gwaith. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen yr adroddiad blynyddol hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru.

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol Technoleg Iechyd Cymru 2024/25.