Newyddion

08 Rhagfyr, 2022

< BACK

Technoleg Iechyd Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed gyda digwyddiad rhithwir oedd yn cynnwys siaradwyr o bob rhan o’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac arloesi yng Nghymru.

Mae’r sefydliad, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017, yn asesu technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaethau, ac yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i letya gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Cymru, ond mae’n annibynnol ar y ddau.

Ers ei sefydlu, mae wedi cyhoeddi mwy na 30 o ddarnau o ganllawiau cenedlaethol ar dechnolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaethau.

Hyd yn hyn, mae gan y canllawiau cenedlaethol sydd yn cael eu cyhoeddi gan Dechnoleg Iechyd Cymru y potensial i effeithio ar fywydau tua 365,515 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn.

Daeth Technoleg Iechyd Cymru yn Bartner Cydweithredol Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn 2020, ac mae wedi dechrau gweithio mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru i ateb anghenion y sector gofal cymdeithasol yn well.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd ei Archwiliad Mabwysiadu Peilot, a astudiodd effaith canllawiau cenedlaethol HTW yng Nghymru. Fe wnaeth yr archwiliad ddarganfod bod canllawiau cenedlaethol sydd wedi cael eu cyhoeddi gan HTW yn cael effaith yn y rhan fwyaf o achosion.

Meddai’r Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru:

“Rwy’n falch dros ben bod Technoleg Iechyd Cymru wedi cyflawni cymaint yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac wedi tyfu’n sefydliad Asesu Technoleg Iechyd aeddfed, effeithiol ac eang ei barch.  Rwyf yr un mor gyffrous am y dyfodol, ac yn hyderus y bydd HTW yn parhau i ddatblygu mewn dylanwad ac effaith.

Mae technolegau iechyd a gofal yn parhau i esblygu, ac mae HTW yn chwarae rhan hanfodol mewn ceisio sicrhau bod yr atebion mwyaf effeithiol a chost-effeithiol ar gael i ddarparwyr iechyd a gofal yng Nghymru.

“Mae gennym dargedau uchelgeisiol i ehangu cwmpas ein gwaith, a byddwn yn parhau i addasu ein prosesau ac archwilio ein heffaith i wneud yn siŵr ein bod ni’n cyflawni ein nodau.”

Ychwanegodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr HTW, “Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i gyflawni a sut rydym wedi addasu fel sefydliad i ateb anghenion newidiol y sectorau iechyd a gofal yng Nghymru.

“Rydym yn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol ar dechnolegau, gyda’r potensial i effeithio’n sylweddol ar y gwasanaeth iechyd a gofal.

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’n partneriaid ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol am weithio gyda ni i gyflawni ein nodau, sef cefnogi mabwysiadu technolegau effeithiol a chost-effeithiol sydd yn cynnig canlyniadau gofal gwell i bobl Cymru.”

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad oedd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Gall unrhyw un awgrymu pwnc i’w arfarnu i Technoleg iechyd Cymru. I ddarganfod mwy, ewch i https://healthtechnology.wales/awgrymu-pwnc/?lang=cy.