Y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd: Pontio Chwaraeon, Iechyd ac Arloesedd

Mae Cadeirydd Panel Asesu Technoleg Iechyd Cymru, yr Athro Keith Lloyd, wedi lansio partneriaeth newydd gyda’r nod o uno sefydliadau chwaraeon, iechyd ac arloesi yng Nghymru.
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Chwaraeon ac Iechyd (NISH) yn sefyll ar flaen y gad o ran tirwedd arloesi technoleg chwaraeon ac iechyd yng Nghymru.
Fel canolfan ddeinamig, mae’n uno’r sectorau academaidd, diwydiant a gofal iechyd i gyflymu datblygiadau arloesol mewn perfformiad, lles a thechnoleg ledled y genedl.
Gyda chefnogaeth Prifysgol Abertawe, Bargen Ddinesig Bae Abertawe a byrddau iechyd lleol, mae NISH yn gwasanaethu fel platfform cydweithredol lle mae ymchwil, entrepreneuriaeth a chwaraeon yn cyd-weithio i gael effaith economaidd a chymdeithasol wirioneddol yng Nghymru a thu hwnt.
Mae NISH yn bartneriaeth gydweithredol sy’n esblygu’n gyson rhwng y byd academaidd, diwydiant a’r GIG. Ei nod yw cryfhau partneriaethau presennol a ffurfio cynghreiriau newydd, denu talent ac annog buddsoddiad er mwyn hybu’r economi leol a gwneud Abertawe yn arweinydd byd-eang mewn arloesedd technoleg meddygol a chwaraeon.
Mae aelodaeth yn tyfu’n gyflym, gydag amrywiaeth o fusnesau bach a chanolig lleol, cyrff chwaraeon cenedlaethol a chewri technoleg fel Vodafone eisoes yn rhan o’r gymuned.
Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Cyfarwyddwr NISH: “Rydym yn gyffrous i gyflwyno’r fenter arloesol hon gyda’r nod o wella chwaraeon a lles ledled Cymru a thu hwnt. Drwy feithrin cymuned ar draws y sectorau chwaraeon, iechyd a thechnoleg, ein bwriad yw hyrwyddo atebion arloesol a fydd yn chwyldroi’r sector.”
Mae gan NISH opsiynau aelodaeth rhithwir, yn ogystal â swyddfeydd yn eu canolfan arloesi chwaraon newydd, a fydd yn agor yn Abertawe ddechrau 2027.
Gall unrhyw un sy’n gweithio mewn technoleg chwaraeon, technoleg feddygol neu ofal iechyd a hoffai fod yn rhan o weledigaeth y Sefydliad – trawsnewid tirwedd iechyd a thechnoleg chwaraeon yng Nghymru – ymuno yma neu wneud cais am ofod swyddfa yma.