Astudiaeth achos fideo: Lensys cyffwrdd a sbectolau ar gyfer trin myopia
Gallwch weld ein hastudiaeth achos ddiweddaraf ar YouTube yma
Mae’n disgrifio ein hasesiad o lensys sbectol a lensys cyffwrdd rheoli myopia, a sut arweiniodd hyn at gyhoeddi canllaw cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru.
Myopia yw’r cyflwr llygaid mwyaf cyffredin ar draws y byd ac, os na chaiff ei drin, gall arwain at y risg o ddatblygu nam ar y golwg a dallineb na ellir ei wrthdroi.
Y gofal safonol i drin myopia yng Nghymru yw gwisgo lensys sbectol golwg sengl neu lensys cyffwrdd, a allai gywiro’r golwg ond sydd ddim yn arafu ei ddatblygiad.
Edrychodd tîm ymchwilwyr HTW ar y dystiolaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd ar y mathau hyn o lensys cyffwrdd ac ar sbectols i reoli myopia a mathau eraill o lensys cyffwrdd, a daeth canllaw HTW i’r casgliad y gall lensys orthoceratoleg a lensys cyffwrdd meddal amlffocal leihau myopia rhag datblygu yn sylweddol ac felly, y risgiau o gymhlethdodau hirdymor gyda’r golwg, a gallant hefyd fod yn gost-effeithiol o ganlyniad i hyn.
Mae canllaw y sefydliad yn nodi bod y dystiolaeth yn cefnogi defnyddio lensys orthoceratoleg a lensys cyswllt meddal amlffocal yn rheolaidd ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, er mai dim ond trwy rai clinigau preifat y mae’r triniaethau hyn ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.
Gallwch ddysgu mwy am ein hasesiad o lensys sbectol a lensys cyffwrdd rheoli myopia yma.