Y canllaw a gyhoeddwyd: Ysgogiad magnetig trawsgreuanol i drin pobl ag iselder mawr sy’n gwrthsefyll triniaeth
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar ddefnyddio symbyliad magnetig trawsgreuanol ailadroddus (rTMS) i drin iselder mawr sy’n gallu gwrthsefyll triniaeth.
Mae TMS yn defnyddio coiliau electromagnetig sydd yn cael eu gosod yn erbyn y pen, sy’n anfon pylsiau ailadroddus o ynni magnetig ar amlder sefydlog i rannau penodol o’r ymennydd. Mae’r ysgogiad hwn yn gallu gwella symptomau o iselder a phryder.
Gellir defnyddio’r driniaeth ar gyfer cleifion sydd yn dioddef o iselder sydd ddim yn ymateb i feddyginiaeth gwrth-iselder, neu ar gyfer cleifion yr ystyrir sydd ddim yn addas i gael meddyginiaeth gwrth-iselder.
Yn ystod ei asesiad o’r driniaeth, edrychodd HTW am dystiolaeth o effeithiolrwydd TMS fel ymyriad ar gyfer iselder, lle mae triniaethau traddodiadol wedi methu.
Daeth Panel Arfarnu HTW i’r casgliad bod rTMS yn driniaeth ddiogel a chlinigol effeithiol ar gyfer iselder mawr sy’n gwrthsefyll triniaeth, yn enwedig yn y tymor byr i ganolig. Fodd bynnag, fe wnaeth gydnabod yr ansicrwydd ynghylch manteision hirdymor rTMS a’i ddefnydd posibl i drin cleifion sydd yn dioddef o iselder difrifol.
Daeth y panel i’r casgliad hefyd, er y byddai’r dystiolaeth o fanteision clinigol yn cefnogi mabwysiadu TMS, bod ansicrwydd ynghylch effaith economaidd rTMS, sy’n gofyn am eglurhad pellach.
Mae’n argymell y dylid gwneud rhagor o ymchwil i benderfynu at effeithiolrwydd hirdymor rTMS cyn y gellir cefnogi’r driniaeth yng Nghymru yn llawn.
I ddarllen y Canllaw yn llawn, cliciwch yma.