Yr Athro Tom Crosby OBE

Gyda thristwch mawr, rydym yn cyhoeddi marwolaeth yr Athro Tom Crosby OBE.
Roedd yr Athro Crosby yn aelod uchel ei barch a gwerthfawr iawn o banel Asesu Technoleg Iechyd Cymru, a chafodd ei arbenigedd a’i ymrwymiad diysgog effaith barhaol ar bawb a weithiodd ochr yn ochr ag ef.
Roedd yn gweithio fel Oncolegydd Ymgynghorol yng Nghanolfan Canser Felindre, a dyfarnwyd OBE iddo i gydnabod ei gyfraniadau eithriadol i ofal canser yng Nghymru. Roedd y rhain yn cynnwys ei arweinyddiaeth ym maes canser gastroberfeddol uchaf, ei waith drwy Rwydwaith Canser Cymru ac fel Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol, mewn datblygu cynlluniau cenedlaethol ar gyfer cyflawni a gwella canser, ac ei waith ar y Llwybr Canser Sengl ac mewn trawsnewid gwasanaethau oncoleg yn Ne Ddwyrain Cymru.
Ymunodd yr Athro Crosby â Phanel Asesu Technoleg Iechyd (HTW) am y tro cyntaf yn 2018 ac roedd yn allweddol mewn siapio ei waith, gan ddarparu cyfraniadau meddylgar a chraff ar arfarniadau technoleg iechyd.
Roedd yn eiriolwr angerddol dros ddefnyddio technolegau arloesol i ddiagnosio canser a’i drin, a chyffyrddodd â bywydau cleifion a theuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan ganser ar draws Cymru.
Mewn teyrnged ar y cyd i’r Athro Crosby, meddai Dr Suan Myles, Cyfarwyddwr HTW a’r Athro Keith Lloyd, Cadeirydd Panel Arfarnu HTW:
“Roedd Tom yn eiriolwr mawr dros waith HTW ac yn aelod hirhoedlog a pharchus iawn o Banel Arfarnu HTW.
“Roedd yn gwybod pa mor hanfodol yw tystiolaeth wrth gefnogi penderfyniadau ynghylch p’un a ddylid mabwysiadu technolegau newydd neu beidio. Roedd ei fewnwelediadau ymarferol i’r gwerth posibl y gallai technolegau ei gynnig i gleifion, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn amhrisiadwy. Roedd yn gydweithiwr gwych a oedd yn adnabyddus am ei garedigrwydd a’i haelioni, a bydd colled fawr ar ei ôl.
“Hoffem estyn ein cydymdeimlad i’w deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr yn ystod y cyfnod trist iawn hwn.”