Newyddion

13 Tachwedd, 2024

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar uwch ymarferwyr parafeddygol

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar ddefnyddio uwch ymarferwyr parafeddygol i ddarparu gofal brys cyn i gleifion gael eu hanfon i’r ysbyty.

Mae uwch ymarferwyr parafeddygol wedi cael hyfforddiant ôl-raddedig, sy’n eu galluogi i wneud penderfyniadau clinigol mwy annibynnol o’i gymharu â pharafeddygon sydd wedi cael hyfforddiant safonol.  Maen nhw hefyd yn gallu cario offer ychwanegol a moddion.

Awgrymwyd y gallai defnyddio uwch ymarferwyr parafeddygol leihau nifer y bobl sydd yn cael eu derbyn i’r ysbyty, a galluogi mwy o bobl i dderbyn gofal priodol yn y gymuned.

Yn ôl canllaw HTW, nid oes llawer o dystiolaeth ar gael ar ddefnyddio uwch ymarferwyr parafeddygol o’i gymharu â gofal safonol. Mae’n argymell bod angen cynnal ymchwil pellach, gan gynnwys ymchwilio i effeithiolrwydd clinigol a chosteffeithiolrwydd defnyddio uwch ymarferwyr parafeddygol.

I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma.