Dewis y wythïen orau
Statws Testun Ar y gweill
Technegau ar gyfer dewis y wythïen orau posibl ar gyfer gosod canwla mewnythiennol perifferol.
Arbenigeddau: System gwaed ac imiwnedd
Crynodeb
Yn aml, mae ffyrdd traddodiadol o ddewis gwythïen yn cynnwys archwiliadau gweledol a thrwy deimlo â llaw Fodd bynnag, mae hyn yn gallu bod yn anodd, ac nid yw bob amser yn gweithio i rai cleifion. Mae dyfeisiau delweddu gwythiennau, arweiniad uwchsain, a phadiau cynhesu yn enghreifftiau o dechnolegau a allai helpu i ddewis gwythïen.
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar dechnegau a allai helpu i ddewis gwythïen er mwyn cael mynediad mewnwythiennol perifferol.
Daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad y dylid symud y pwnc hwn ymlaen i gynnal asesiad tystiolaeth llawn arno, a chanolbwyntio ar arweiniad uwchsain.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER066 11.2025