Cyfnerthu’r nerfau ocsipwt

Statws Testun Cyflawn

Cyfnerthu’r nerfau ocsipwt ar gyfer trin cur pen clwstwr cronig anhydrin yn feddygol.

Arbenigeddau:  System nerfol

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae ysgogi’r nerfau ocsipwt yn dangos addewid ar gyfer trin cur pen clwstwr cronig anhydrin yn feddygol, ond does dim digon o dystiolaeth i gefnogi hyn fel mater o drefn.

Mae ansicrwydd ynghylch effaith therapiwtig ysgogi’r nerfau ocsipwt ar sail y dystiolaeth na ellir ei chymharu sydd ar gael, ac mae’n anodd amcangyfrif y canlyniadau economaidd. Argymhellir rhagor o ymchwil i ganfod effaith ysgogi’r nerfau ocsipwt ar amlder a difrifoldeb ymosodiadau cur pen clwstwr, ansawdd bywyd a goblygiadau o ran cost.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae cur pen clwstwr cronig yn fath prin o anhwylder cur pen sy’n peri symptomau difrifol ac anodd weithiau. Mae’r pyliau cur pen yn cael eu rheoli gydag ystod o wahanol gyffuriau.  Mae cyfran fechan (rhwng 5% a 20%) o bobl sydd â chur pen clwstwr cronig yn anhydrin i driniaeth gan gyffuriau, ac mae’r bobl hyn yn dal i ddioddef o byliau o gur pen bob dydd neu bron bob dydd. Mae mewnblannu dyfais i ysgogi’r nerfau ocsipwt wedi cael ei gynnig fel ffordd o fodiwleiddio amlder a difrifoldeb ymosodiadau cur pen clwstwr nad ydynt yn ymateb yn dda i driniaeth cyffuriau.

Awgrymwyd y pwnc hwn drwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC). Mae’r mynediad presennol i ysgogi’r nerfau ocsipwt i gleifion cymwys yng Nghymru yn cael ei wneud drwy geisiadau cyllido cleifion unigol, ac yn cael eu hatgyfeirio i GIG Lloegr.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru (HTW) ar dystiolaeth y gellir defnyddio ysgogi’r nerfau ocsipwt ar gyfer trin cur pen clwstwr cronig sydd ddim yn ymateb i driniaethau arferol.

Mae cur pen clwstwr cronig yn fath prin o gur pen, sy’n boenus iawn. Fel arfer, maen nhw’n cael eu trin trwy feddyginiaethau sy’n ceisio atal y cur pen neu drin y symptomau cur pen. Fodd bynnag, nid yw nifer fach o bobl yn ymateb i driniaeth.

Mae ysgogi’r nerfau ocsipwt yn cynnwys ysgogi’r nerfau ocsipwt yn electronig, sydd yng nghefn y pen.  Mae ceblau sy’n cynnwys electrodau yn cael eu mewnblannu o dan y croen dros y nerfau ocsipwt. Mae’r ceblau wedi’u cysylltu â batri sydd fel arfer yn cael ei roi o dan y croen yn y frest. Mae’r ddyfais yn anfon pylsiau trydan ysgafn ar hyd y nerfau hyn, sy’n ceisio lleihau poen y cur pen.

Ar hyn o bryd, nid yw canllawiau HTW yn cefnogi’r broses o fabwysiadu ysgogi’r nerfau fel mater o drefn, gan nad oes digon o dystiolaeth i ddangos manteision y weithdrefn.  Fodd bynnag, mae HTW yn cefnogi’r mynediad parhaus i ysgogi’r nerfau ocsipwt gan gleifion drwy’r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol (CCCU). Mae HTW yn argymell y dylid gwneud mwy o ymchwil.

Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR013 12.2019

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER062 09.2019 (wedi cael ei ddisodli gan EAR013 12.2019)