Profion methyl aml-genyn yn seiliedig ar waed
Statws Testun Cyflawn
Profion methyl aml-genyn yn seiliedig ar waed ar gyfer sgrinio canser y colon a'r rhefr
Arbenigeddau: Canser
Crynodeb
Canser y colon a’r rhefr yw’r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, ac mae mwy na 2,000 o bobl yn cael diagnosis ohono bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae prawf imiwnocemegol ar ysgarthion (FIT) yn cael ei gynnig i bobl sydd â symptomau canser y colon a’r rhefr ac, os yw’n bositif neu os oes gan y person symptomau risg uchel, mae colonsogopi yn cael ei gynnig iddynt. Mae profion methyl aml-genyn yn seiliedig ar waed ar gyfer sgrinio canser y colon a’r rhefr sy’n cynnwys deallusrwydd artiffisial wedi cael eu datblygu i nodi biomarcwyr canser y colon a’r rhefr.
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar ddefnyddio profion aml-genyn yn seiliedig ar waed ar gyfer canser y colon a’r rhefr. Ystyriwyd bod profion un genyn y tu allan i gwmpas y TER hwn.
Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ganfuwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i’r cam arfarnu tystiolaeth.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER636 03.2026