Technoleg Iechyd Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2025/26

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2025/26.
Yn ystod 2025-26, fe wnaethom ystyried 56 o atgyfeiriadau pwnc newydd a chyhoeddi 10 dogfen ganllaw HTW newydd.
Roedd ein canllawiau’n trafod pynciau oedd yn amrywio o fonitro fideo yn y cartref ar gyfer diagnosio epilepsi, i ddyfeisiau sbwng capsiwl i ganfod oesoffagws Barrett a chanser yr oesoffagws cynnar.
Er mwyn gwella eglurder ein canllawiau, fe wnaethom gyflwyno set newydd o argymhellion sy’n berthnasol i bob canllaw newydd sydd yn cael eu cyhoeddi o fis Chwefror 2026 ymlaen. Mae’r newidiadau hyn wedi’u cynllunio i sicrhau bod ein canllawiau cenedlaethol yn gliriach, yn fwy cyson, ac yn hygyrch i gynulleidfa ehangach.
Cyrhaeddodd ein Hadroddiad Archwilio Mabwysiadu y gyfradd ymateb orau hyd yma, sef 98%, gyda phob un o’r 10 sefydliad comisiynu yng Nghymru yn cymryd rhan. Dangosodd yr archwiliad, a oedd yn canolbwyntio ar chwe darn o ganllaw HTW, a thri darn o ganllaw Arfarnu Technolegau Meddygol (MTEP) NICE, unwaith eto fod ein gwaith yn cael effaith ac yn cefnogi gwneud penderfyniadau ar draws Cymru.
Fe wnaethon ni barhau i weithio fel partner cydweithredol i Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gynnal adolygiadau tystiolaeth cyflym i gefnogi gwneud penderfyniadau gan lunwyr polisi Cymru.
Mae PPI (cynnwys y cleifion a’r cyhoedd) hefyd yn parhau i fod yn rhan graidd o’n gwaith arfarnu, ac rydym mor ddiolchgar ag erioed i’n Grŵp Sefydlog Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd, sy’n gwneud gwaith mor werthfawr i sicrhau bod lleisiau y cleifion a’r cyhoedd wedi’u cynnwys yn ein gwaith.
Wrth edrych ymlaen, mae Cynllun Strategol diweddaraf HTW yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y pedair blynedd nesaf, ac yn gosod cyfeiriad uchelgeisiol i’r sefydliad. Hoffem ddiolch i’n partneriaid am eu cefnogaeth barhaus wrth ddatblygu’r cynllun, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio i gyflawni’r nodau a’r amcanion y mae’n eu hamlinellu.
Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol Technoleg Iechyd Cymru 2025/26.