Systemau cywasgu i drin wlserau ar y coesau a’r traed, ac oedema

Statws Testun Cyflawn

Rhwymyn cywasgu wedi'i wneud o gyfuniad o ddeunyddiau elastig a deunyddiau sydd ddim yn elastig, i drin wlserau ar y coesau a’r traed, ac oedema

Arbenigeddau:  Anafiadau, damweiniau a chlwyfau

Crynodeb

 

Mae therapi cywasgu yn rhan bwysig o drin wlserau gwythiennol ac oedema yn y coesau a’r traed. Mae systemau cywasgu wedi’u wneud o gyfuniad o ddeunyddiau elastig a deunyddiau sydd ddim yn elastig, yn fformat newydd, syml, i ddarparu therapi cywasgu.

 

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio systemau cywasgu mewn un rhwymyn i drin wlserau ac oedema yn y coesau a’r traed.

 

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ganfuwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i’r cam arfarnu tystiolaeth.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER661 05.2026