Newyddion

14 Hydref, 2026

HTW yn ymuno â chydweithwyr rhyngwladol yng nghyfarfod aelodau INSIA

A collage of images from the INSIA meeting. One showing attendees photographed as a group outside. Two photos taken during presentations

 

Roeddem yn hapus dros ben o gael y cyfle i gymryd rhan yng nghyfarfod aelodau INISA (International Network for Social Intervention Assessment) ym mis Medi eleni yn Copenhagen.

 

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn – a gynhaliwyd eleni gan VIVE (Canolfan Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Denmarc) – yn gyfle gwerthfawr i gydweithwyr rhyngwladol rannu gwybodaeth am asesu ymyriadau cymdeithasol.

 

Yn y digwyddiad, rhoddodd ein Hymchwilydd Gwasanaethau Iechyd, Dr Clare England, gyflwyniad ar ganllawiau tryloywder AI Technoleg Iechyd Cymru (HTW).

 

Roedd cyflwyniadau yng nghyfarfod eleni hefyd yn canolbwyntio ar weithredu canllawiau, gan gynnwys gweithredu ymyriadau cymhleth, ymyriadau teuluol, canllawiau NICE, ac argymhellion monitro ar asesiadau risg plant.

 

Roedd y cyfarfod hefyd yn cynnwys sesiwn gweithgor ar gyfer is-grŵp AI INSIA, a fu’n archwilio sut i ddatblygu arolwg ar gyfer sefydliadau sy’n aelodau o INSIA ynghylch eu ffyrdd o ddelio gydag AI ac ystyriaethau moesegol.

 

Penodwyd Cyfarwyddwr HTW, Dr Susan Myles, i fwrdd cyfarwyddwyr INSIA yn 2023, gan atgyfnerthu ymrwymiad HTW i asesu asesiadau ymyriadau cymdeithasol. Dywedodd:

 

 “Hoffem ddiolch i’n cydweithwyr yn INSIA am gyfarfod arall i aelodau a oedd yn ysgogi’r meddwl.

“Mae asesu ymyriadau cymdeithasol yn faes sy’n datblygu’n gyflym, ac mae’n hanfodol bod y rhai sydd ar flaen y gad yn y gwaith hwn yn rhannu eu harbenigedd, y gwersi a ddysgwyd, a datblygiadau mewn dulliau a thechnoleg.

“Er bod sefydliadau sy’n aelodau yn gwasanaethu cymunedau a grwpiau gwahanol o bobl, mae llawer o’r heriau a wynebwn yn gyffredin, ac mae llawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd.”

 

Sefydlwyd INSIA yn 2021 i ddarparu arweinyddiaeth fyd-eang ym maes asesu ymyriadau cymdeithasol, ac i hyrwyddo penderfyniadau lles cymdeithasol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

 

I gael gwybod mwy am waith INSIA, ewch i’w gwefan yma.

 

Gallwch ddarllen datganiad safbwynt INSIA yma.