Delweddau Digidol o Du Allan y Llygad
Statws Testun Ar y gweill
Delweddau digidol o du allan y llygad i gyd-fynd ag atgyfeiriadau cleifion i ofal eilaidd
Arbenigeddau: Darparu a threfnu gwasanaethau iechyd; Llygad
Crynodeb
Gellir asesu a diagnosio llawer o afiechydon o du allan y llygaid yn defnyddio ffotograffau o ansawdd uchel. Gellir atodi delweddau ffotograffig clinigol digidol, neu ddelweddau ffotograffig lamp hollt, a dynnwyd yn ystod archwiliad optometreg cymunedol y claf, at atgyfeiriadau er mwyn eu hadolygu, eu diagnosio a’u brysbennu o bell yn ddiweddarach gan ymgynghorydd offthalmoleg neu arbenigwr arall.
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio delweddau digidol o du allan y llygaid i gyd-fynd ag atgyfeiriadau cleifion i ofal eilaidd, o’i gymharu ag arferion atgyfeirio safonol.
Mae penderfyniad ynghylch p’un a ddylid symud y pwnc hwn ymlaen i gynnal arfarniad llawn arno yn yr arfaeth.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER678 08.2026