Adroddiad Archwilio Mabwysiadu Diweddaraf yn datgelu effaith canllawiau HTW

Mae ymwybyddiaeth o ganllawiau HTW yn uchel, ac mae’n cael effaith ar draws Cymru yn ôl Adroddiad Archwilio Mabwysiadu diweddaraf HTW.
Roedd archwiliad HTW, sy’n cael ei gynnal yn flynyddol, yn canolbwyntio ar 11 darn o ganllawiau HTW a thri darn o ganllawiau Rhaglen Gwerthuso Technolegau Meddygol NICE (MTEP).
Nod yr archwiliad oedd darganfod p’un a oedd mabwysiadu’r canllawiau wedi digwydd ar draws Cymru.
Roedd cyfraddau ymateb i’r archwiliad yn galonogol, gydag ymatebion gan chwech o’r saith bwrdd iechyd a chan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC).
Roedd canfyddiadau allweddol Adroddiad Archwilio Mabwysiadu 2022/23 yn cynnwys y canlynol:
- Mae ymatebion gan sefydliadau lle mae’r canllawiau yn berthnasol yn dangos bod ymwybyddiaeth o ganllawiau HTW yn uchel (70%), bod eglurder argymhellion canllawiau HTW yn dda (83%), a bod canllawiau HTW yn cael rhyw fath o effaith yn y mwyafrif o achosion (72%).
- Mewn rhai achosion, mae’r ymatebion yn dangos yn glir bod canllawiau HTW wedi cael eu mabwysiadu, a’u bod wedi cael effaith glir ar wneud penderfyniadau. O ran canllawiau sy’n argymell mabwysiadu technoleg yn rheolaidd, roedd hyn yn fwyaf amlwg ar gyfer y ddyfais monitro glwcos fflach FreeStyle Libre.
- Roedd rhai achosion lle mae’n ymddangos nad oedd canllawiau HTW wedi cael eu mabwysiadu. O ran canllawiau sy’n argymell defnyddio technoleg, roedd hyn yn fwyaf amlwg ar gyfer ClearGuard™
- Mewn rhai achosion, rhwystrwyd mabwysiadu canllawiau oherwydd cyfyngiadau o ran adnoddau (nid yw cyllid ychwanegol yn cyd-fynd â chanllawiau HTW) a ffactorau eraill, fel niferoedd bach o gleifion, galluoedd technolegau presennol, a’r defnydd cyfredol o gynhyrchion eraill.
Daeth yr adroddiad archwilio i’r casgliad y dylai byrddau iechyd lleol, WHSCC a’r byrddau iechyd arbenigol barhau i weithio gyda HTW i gefnogi adroddiadau archwilio mabwysiadu yn y dyfodol, ac y dylai Llywodraeth Cymru barhau i annog cyfranogiad yn y broses. Mae hefyd yn awgrymu y dylai HTW ystyried sut y gellir ymestyn y broses archwilio mabwysiadu i gwmpasu canllawiau gofal cymdeithasol.
Dywedodd yr Athro Peter Groves, Cadeirydd HTW: “Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r byrddau iechyd lleol, comisiynwyr a byrddau iechyd arbenigol am ymgysylltu â ni mor agos drwy gydol y broses archwilio.
“Bydd eu cefnogaeth yn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth briodol o effaith ein gwaith, ac y gallwn weithredu ar ganfyddiadau’r adroddiad i sicrhau ein bod yn ateb anghenion y sectorau iechyd a gofal yng Nghymru.”
Ychwanegodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr HTW: “Rydym yn falch o fod yn arwain y ffordd yn y DU ac yn rhyngwladol yn y ffordd rydym yn monitro effaith ein canllawiau cenedlaethol.”
“Bydd y gwaith pwysig hwn yn ein galluogi i gefnogi’r uchelgeisiau a nodir yn agenda iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.”
I ddarllen yr adroddiad yn llawn, cliciwch yma.