Newyddion

10 Gorffennaf, 2025

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar dyfeisiau niwrofodylu crimogol y gellir eu mewnblannu

TER, EAR, GUI

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio Dyfeisiau Niwrofodylu Crimogol y gellir eu Mewnblannu i drin yr ysfa am  anymataliaeth wrinol brys a/neu bledren orweithgar.

Anymataliaeth wrinol brys ydy’r angen sydyn, brys i basio wrin. Mae’n cael ei achosi’n bennaf pan fydd cyhyrau’r bledren yn cywasgu, ac mae’n gallu cael ei achosi gan gyhyrau llawr y pelfis gwan, niwed i’r nerfau, haint, lefelau isel o estrogen neu bwysau corff trymach.

 

Mae Dyfeisiau Niwrofodylu Crimogol y gellir eu Mewnblannu yn defnyddio signalau trydanol i helpu i reoli’r cyhyrau’n cywasgu, sy’n achosi’r ysfa am anymataliaeth wrinol.

 

Mae’r ddyfais wedi’i mewnblannu yn y ffêr, a gall y claf roi’r driniaeth gartref.

 

Yn ôl canllaw HTW, mae Dyfeisiau Niwrofodylu Crimogol y gellir eu Mewnblannu yn dangos addewid ar gyfer trin anymataliaeth wrinol brys a/neu bledren orweithgar, ond nid yw’r dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi eu mabwysiadu fel mater o drefn.

 

Cliciwch yma i ddarllen y canllaw yn llawn.