Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar profion genynnau MAF i arwain triniaeth bisffosffonad ategol mewn canser y fron

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio profion genynnau MAF i lywio triniaeth sy’n cynnwys y cyffur ategol bisffosffonad i drin canser cynnar y fron.
Mae bisffosffonadau yn fath o feddyginiaeth sydd yn cael ei rhagnodi yn dilyn triniaeth ar gyfer canser y fron cam cynnar. Mae’r feddyginiaeth yn cael ei chymryd i amddiffyn esgyrn rhag teneuo neu i atal canser rhag dychwelyd. Mae’r driniaeth yn cael ei galw’n driniaeth ategol.
Gall sgîl-effeithiau’r feddyginiaeth gynnwys salwch ysgafn, diffyg traul, symptomau tebyg i ffliw ac ar adegau, dirywiad yr esgyrn yn yr ên, sydd yn cael ei alw’n osteonecrosis yr ên.
Gall prawf ar gyfer y genyn MAF benderfynu p’un a y gellir rhagnodi triniaeth bisffosffonad i glaf. Mae hyn oherwydd bod presenoldeb y genyn MAF wedi’i gysylltu â chleifion sydd wedi profi dirywiad yn eu hesgyrn ar ôl derbyn triniaeth bisffosffonad.
Yn ôl y canllaw, nid oes digon o dystiolaeth i gefnogi mabwysiadu profion genynnau MAF yn rheolaidd i lywio triniaeth sy’n cynnwys y cyffur ategol bisffosffonad i drin canser cynnar y fron.
Mae canllaw HTW yn nodi bod ymchwil bellach yn cael ei argymell i werthuso defnyddio profion MAF i lywio’r defnydd o bisffosffonadau.
Cliciwch yma i ddarllen y canllaw yn llawn.