Newyddion

19 Mehefin, 2025

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar systemau selio pibellau deubegwn electrolawfeddygol datblygedig yn ystod hysterectomi

 

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio systemau selio pibellau gwaed deubegwn electrolawfeddygol datblygedig (ABVS) yn ystod hysterectomi.

Yn ôl canllaw HTW, mae’r dystiolaeth yn rhannol gefnogi mabwysiadu ABVS mewn pobl sy’n cael hysterectomi.

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu ABVS fel mater o drefn i’w ddefnyddio yn ystod hysterectomi y wain.

Fodd bynnag, er bod ABVS yn dangos addewid y gellid ei ddefnyddio yn ystod hysterectomi abdomenol a hysterectomi laparosgopig, nid oes digon o dystiolaeth i gefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn.

Cliciwch yma i ddarllen y canllaw yn llawn.