Newyddion

20 Gorffennaf, 2026

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar y profion canfod antigenau cyflym ar gyfer heintiau streptococol grŵp A

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw cenedlaethol yn argymell bod pobl sydd â dolur gwddf yn cael cynnig prawf ar gyfer haint bacteriol yn eu fferyllfa gymunedol.

 

Mae’r rhan fwyaf o achosion o ddolur gwddf yn cael eu hachosi gan haint

feirysol. Fodd bynnag, mae rhai yn cael eu hachosi gan streptococws Grŵp A, haint bacteriol y gellir ei drin â gwrthfiotigau.

 

Mae profion canfod antigenau cyflym ar gyfer diagnosio heintiau streptococol grŵp A yn cael eu cynnal drwy gymryd swab o gefn y gwddf, ac mae’r rhain yn gallu cael eu gwneud gan fferyllwyr.

 

Mae penderfynu a yw dolur gwddf yn cael ei achosi gan haint bacteriol yn gallu atal rhagnodi gormod o wrthfiotigau.

Mae canllaw HTW yn nodi y dylai GIG Cymru gynnig profion canfod antigenau cyflym ar gyfer heintiau streptococws grŵp A yn rheolaidd, er mwyn trin pobl sydd â dolur gwddf mewn fferyllfeydd cymunedol.

 

I ddarllen canllaw HTW yn llawn, cliciwch yma.