Profion canfod antigenau cyflym

Statws Testun Cyflawn

Profion canfod antigen cyflym ar gyfer heintiau streptococol grŵp A i drin pobl â dolur gwddf mewn fferyllfeydd cymunedol

Arbenigeddau:  Clefyd heintus

Mae hwn yn fersiwn wedi’i ddiweddaru o arfarniad. Cyhoeddodd HTW Ganllaw ar y pwnc hwn yn wreiddiol ym mis Medi 2020 . Os hoffech weld y Canllaw a’r dogfennau ategol o’r arfarniadau blaenorol, cysylltwch â HTW.

Canlyniad yr arfarniad

 

Dylai GIG Cymru gynnig profion canfod antigen cyflym fel mate ro drefn ar gyfer heintiau streptococol grŵp A i drin pobl â dolur gwddf mewn fferyllfeydd cymunedol.

 

Mae tystiolaeth yn dangos bod cyfraddau presgripsiynu gwrthfiotigau yn is ar gyfer pobl sy’n ymgyflwyno â dolur gwddf mewn fferyllfeydd cymunedol sy’n darparu gwasanaeth sgrinio a thriniaeth gan ddefnyddio profion canfod antigen cyflym (RADTau) cadarnhau yn y pwynt gofal ar gyfer heintiau streptococol grŵp A (GAS), o’i gymharu â 1) fferyllfeydd cymunedol nad ydynt yn defnyddio RADTau cadarnhau neu 2) ymgynghoriadau safonol mewn meddygfa deulu. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall presgripsiynu gwrthfiotigau yn amhriodol gyfrannu at ymwrthedd gwrthficrobaidd.

 

Amcangyfrifwyd bod defnyddio RADTau mewn fferyllfeydd cymunedol ar gyfer pobl sy’n ymgyflwyno â dolur gwddf yn gost-effeithiol o’i gymharu ag asesiad safonol gan feddyg teulu. Roedd cost-effeithiolrwydd yn ansicr o’i gymharu â fferyllfeydd cymunedol nad ydynt yn defnyddio RADTau, oherwydd na ellid dod i ganlyniad cadarn ynghylch buddion iechyd ehangach lleihau presgripsiynu gwrthfiotigau, megis effeithiau ar ymwrthedd gwrthficrobaidd, yn y modelu economaidd. Fodd bynnag, teimlai’r Panel Arfarnu fod y buddion iechyd ehangach o leihau presgripsiynu gwrthfiotigau yn bwysig a barnodd fod y buddion tebygol o gyflwyno RADT yn gorbwyso’r ansicrwydd sy’n weddill ynghylch ei gost-effeithiolrwydd.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae’r rhan fwyaf o achosion o ddolur gwddf yn ganlyniad i heintiau feirysol, ond mae lleiafrif yn cael eu hachosi gan haint bacteriol a gallant elwa o gael gwrthfiotigau. Achos bacteriol mwyaf cyffredin dolur gwddf yw GAS. Profion RADT yn y pwynt gofal yw profion ar gyfer dolur gwddf GAS y gellir eu defnyddio i helpu gyda diagnosis dolur gwddf.

 

Gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf Cymru (STTT) a gynhelir gan fferyllfeydd cymunedol sydd wedi treialu defnyddio RADT cadarnhau mewn pobl sydd â thebygolrwydd uwch o ddolur gwddf yw GAS ar ôl asesiad gan ddefnyddio offer sgorio clinigol, megis FeverPAIN neu Centor. Yn 2020, canfu arfarniad HTW o effeithiolrwydd clinigol a chost effeithiolrwydd RADT ar gyfer dolur gwddf GAS yn yr STTT fod y dystiolaeth yn gyfyngedig ac nad oedd yn cefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn. Erbyn hyn mae ymchwil bellach wedi’i chynnal. Mae RADTau wedi cael eu defnyddio yn yr STTT ers 2018 pan dreialwyd y gwasanaeth mewn 56 o fferyllfeydd cymunedol. Mae’r STTT wedi’i gyflwyno’n genedlaethol ledled Cymru ac yn 2024/2025 cynhaliwyd tua 40,000 o RADTau. Nod yr ailasesiad oedd galluogi penderfyniad terfynol i gael ei wneud ynghylch parhau i ddefnyddio RADTau fel rhan o’r gwasanaeth STTT.

 

Cynigiwyd y pwnc hwn gan Brif Swyddog Fferyllol Llywodraeth Cymru.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Beth yw heintiau streptococol grŵp A?

Haint bacteriol sy’n achosi symptomau megis dolur gwddf, twymyn a phoenau yw streptococws grŵp A (Strep A). Gellir trin Strep A â gwrthfiotigau. Ni fydd pob achos o ddolur gwddf oherwydd Strep A. Ni fydd angen triniaeth wrthfiotig ar achosion eraill o ddolur gwddf.

Bydd pennu achos y dolur gwddf yn atal gor-bresgripsiynu gwrthfiotigau. Mae hyn yn bwysig oherwydd po fwyaf o wrthfiotigau a bresgripsiynir, y mwyaf o facteria all ddatblygu ymwrthedd i wrthfiotigau.

Beth yw profion canfod antigen cyflym?

Gellir defnyddio profion canfod antigen cyflym (RADTau) i nodi achosion o Strep A. Cymerir swab yng nghefn y gwddf a’i brofi am bresenoldeb antigenau sy’n benodol i Strep A. Gall fferyllwyr wneud y prawf. Mae hyn yn golygu na fydd angen i bobl â dolur gwddf drefnu apwyntiad gyda’u meddyg teulu i gael eu profi am Strep A a chael presgripsiwn o wrthfiotigau.

Beth wnaeth Technoleg Iechyd Cymru?

Chwiliodd HTW am dystiolaeth ar ddefnyddio profion RADTau ar gyfer dolur gwddf. Dylai GIG Cymru gynnig profion canfod antigen cyflym fel mater o drefn ar gyfer heintiau streptococcal grŵp A i drin pobl â dolur gwddf yn y gymuned.

 

Canllaw

GUI020-2 07.2026

GUI

Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR020-2 07.2026