Newyddion

28 Mawrth, 2024

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar Ymyriadau Drwy Adborth Fideo

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi cyhoeddi canllaw ar ddefnyddio ymyriadau drwy adborth fideo (VFI) i gefnogi plant a’u teuluoedd sydd mewn perygl o niwed.

Mae ymyriadau drwy adborth fideo yn rhoi cyfle i rieni arsylwi a myfyrio ar ryngweithio drwy fideo gyda’u plant, a gweithio gyda gweithiwr proffesiynol i wella’r berthynas.

Ei nod yw gwella’r cyfathrebu o fewn perthnasoedd teuluol a chefnogi plant sydd mewn perygl.

Mae HTW yn cynnal arfarniadau o dechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol anfeddygol, ac yn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru.

Yn ôl canllaw HTW, mae’r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio ymyriadau drwy adborth fideos i gefnogi plant a’u teuluoedd sydd mewn perygl neu sy’n dioddef niwed.

Fe wnaeth ymchwil HTW ddarganfod bod ymyriadau drwy adborth fideo wedi arwain at wella dealltwriaeth rhieni, y rhyngweithio rhwng rhieni a phlant, ac ymlyniadau.

Yn y cyfamser, adroddodd rhieni a ddefnyddiodd ymyriadau drwy adborth fideo welliannau yn eu hyder fel rhieni ac yn eu perthnasoedd teuluol.

Gallwch ddarllen canllaw HTW yn llawn yma