Ymyriadau drwy adborth fideo
Statws Testun Cyflawn
Ymyriadau drwy adborth fideo i wella’r cyfathrebu rhwng teuluoedd a chefnogi plant sydd mewn perygl
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu ymyriadau adborth fideo i gefnogi plant a’u teuluoedd sydd mewn perygl o niwed neu sy’n dioddef niwed.
Mae gwelliannau mewn sensitifrwydd rhieni, rhyngweithio rhiant-plentyn ac ymlyniad wedi’u nodi gan ddefnyddio ymyriadau adborth fideo. Mae effaith ymyriadau adborth fideo ar leoli y tu allan i’r cartref a chanlyniadau tymor hwy yn ansicr. Mae rhieni a ddefnyddiodd ymyriadau adborth fideo yn adrodd am welliannau mewn perthnasoedd teuluol a hyder rhieni.
Mae ansicrwydd ynghylch effaith ymyriadau adborth fideo ar leoli y tu allan i’r cartref yn trosi’n ansicrwydd yng nghostau ymyriadau adborth fideo o gymharu â gofal safonol. Daeth y Panel Arfarnu i’r casgliad, fodd bynnag, fod y dystiolaeth i gefnogi buddion ymyriadau adborth fideo yn cyfiawnhau unrhyw gynnydd posibl mewn costau, ac nad yw’r dystiolaeth economaidd yn atal mabwysiadu. Byddai’r Panel yn annog casglu rhagor o ddata i gefnogi’r ymyriad hwn.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae camdriniaeth plant yn cael effaith sylweddol ar les plant ac o bosibl effaith gydol oes ar ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol y plentyn. Gallai rhaglenni ymweliadau â rhieni yn y cartref, gan gynnwys ymyriadau adborth fideo (VFI), ar gyfer teuluoedd sydd mewn perygl leihau nifer yr achosion a’r risg o gamdriniaeth. Mae VFI yn derm ymbarél sy’n cyfeirio at y defnydd o adborth fideo wedi’i recordio gyda thywysydd dros sawl sesiwn. Gall VFI amrywio, gan gynnwys union enw’r ymyriad e.e. canllawiau rhyngweithio fideo (VIG) a’r dull cyflwyno (h.y. nifer y sesiynau a ddefnyddir).
Cynigiwyd y pwnc hwn gan Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd; hefyd wedi’i leoli yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae camdriniaeth plant yn cael effaith negyddol ar les plant a gall gael effeithiau hirdymor ar ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol a meddyliol y plentyn. Gall ffyrdd effeithiol o wella’r berthynas rhwng y sawl sy’n rhoi gofal a’r plentyn o bosibl wella sgiliau rhianta, straen rhieni a’r amgylchedd teuluol a all gael effeithiau pwysig ar blant. I blant sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau plant ac a allai fod mewn perygl o niwed, mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn ceisio atal niwed pellach rhag digwydd ac, yn y sefyllfaoedd gwaethaf, plentyn yn gorfod gadael ei deulu.
Term eang yw ymyriadau adborth fideo sy’n cynnwys llawer o wahanol ymyriadau, er eu bod i gyd yn defnyddio adborth fideo wedi’i recordio. Gelwir un o’r ymyriadau yn canllawiau rhyngweithio fideo (VIG) sydd wedi’i ddefnyddio ar draws ystod eang o wahanol leoliadau i wella cyfathrebu ac ymlyniad rhwng unigolion, yn enwedig y sawl sy’n rhoi gofal a’u plant. Gellir cynnal VIG dros sawl sesiwn a gan ystod o weithwyr proffesiynol, ond mae gan ymyriad o’r fath ddull cyffredin. Yn ystod sesiynau, bydd gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol yn helpu’r sawl sy’n rhoi gofal i osod amcanion, nodau a disgwyliadau VIG. Yna mae’r gweithiwr proffesiynol yn cofnodi sgyrsiau a gweithgareddau rhwng y rhai sy’n rhoi gofal a’u plentyn a dangosir y rhain i’r rhai sy’n rhoi’r gofal a’u plant, os ydynt yn ddigon hen, gan ganolbwyntio ar adegau cadarnhaol. Gall hyn helpu’r sawl sy’n rhoi gofal i fyfyrio ar ei berthynas/pherthynas a gwneud cynnydd tuag at ei nodau.
Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth o effeithiolrwydd ymyriadau adborth fideo i wella canlyniadau i blant a’u teuluoedd sydd mewn perygl o ddioddef neu niwed sylweddol neu gamdriniaeth.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER348 04.2022
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR047 03.2024
Canllaw
GUI047 03.2023
Oherwydd oedi mewn cyhoeddi, cynhaliwyd chwiliad diweddaru ym mis Ionawr 2024, i ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth newydd oedd wedi cael ei gyhoeddi ar ôl i’r pwnc gael ei adolygu gan y Panel Arfarnu ym mis Mawrth 2023. Ni chanfuwyd unrhyw astudiaethau newydd a fyddai’n newid y dystiolaeth sydd yn cael ei chynnwys yn yr Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth (EAR), nac a fyddai’n effeithio ar ganllaw y Panel Arfarnu.