Astudiaeth achos: Grŵp Cyswllt NICE
Beth wnaethom ni?
Ym mis Mawrth gwnaethom drefnu a chynnal gweithdy gyda’r teitl ‘NICE Guidance: from on the website to on the ground.’
Diben y gweithdy oedd dysgu a rhannu syniadau am wneud y defnydd gorau posibl o ganllawiau NICE yng Nghymru, o ledaenu i weithredu.
Gyda phwy?
Gwnaethom wahodd ystod eang o randdeiliaid gofal iechyd i gymryd rhan yn y gweithdy, yn cynnwys gweithwyr clinigol a gofal iechyd proffesiynol. Yn y cyflwyniadau cafwyd trosolwg o NICE yng Nghymru, gan gynnwys enghreifftiau o ganllawiau NICE sy’n cael eu rhoi ar waith ac yn gwneud gwahaniaeth i ofal mewn lleoliadau yng Nghymru.
Beth oedd yr adwaith?
Dysgodd y mynychwyr am nod NICE i weithio gyda phobl ar lawr gwlad i gefnogi mabwysiadu ac effaith canllawiau NICE, a sut yr oedd Grŵp Cyswllt NICE yn gweithio i gyflawni hyn. Roedd hyn yn cynnwys enghreifftiau go iawn o gefnogi defnydd cynhyrchion NICE mewn gwella gwasanaeth, archwilio ffyrdd systematig o weithredu canllawiau NICE ac i ganfod y ffordd orau i rannu canllawiau. Gwnaethant hefyd ddysgu am yr adnoddau sydd ar gael ar wefan NICE, yn cynnwys offer gwneud penderfyniadau, cynllunydd adnoddau ac offer archwilio.
Roedd y gweithdy yn cynnwys sesiwn prynhawn gyda grwpiau trafod bach yn ymdrin â gwahanol themâu parthed llywodraethu, lledaenu a gweithredu canllawiau NICE o fewn sefydliadau yng Nghymru. Caniataodd hyn y mynychwyr i rannu syniadau a materion allweddol yn ymwneud â mabwysiadu canllawiau technoleg iechyd.
“Roedd mewnbwn y tîm yn galonogol, yn drefnus tu hwnt ac roeddwn yn ei groesawu’n fawr. Gwnaed argraff arnaf gyda’r mewnbwn gan aelodau tîm HTW yn y cyfnod byr rydw i wedi eu hadnabod… mae HTW a’r holl staff yr wyf wedi’u cyfarfod wedi bod yn hawdd gweithio gyda nhw ac mae ganddynt ffocws cryf ar ganlyniadau cadarnhaol. Rwy’n gobeithio’n fawr y byddaf yn gweithio llawer mwy gyda HTW yn y dyfodol.”
Dr Julia Terry, Cymrawd NICE,
Athro Cyswllt, Prifysgol Abertawe
Pa wahaniaeth wnaeth hyn?
Gan ddilyn ymlaen o’r gweithdy, rydym wedi parhau i gael perthynas agos gyda NICE ar ffurf Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, gan gydweithio i gefnogi arfarnu a gweithredu canllawiau technoleg nad yw’n feddyginiaeth yng Nghymru. Amlygodd y gweithdy hefyd yr angen am rôl ddynodedig NICE yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu, ac arweiniodd hyn at rôl benodedig Hwylusydd Gweithredu i Gymru NICE.
Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol 2018-2019 HTW yn llawn.