Lansio apêl am dechnolegau i gefnogi adferiad COVID-19 GIG Cymru
Mae apêl am syniadau am dechnolegau a allai gefnogi proses adfer COVID-19 GIG Cymru wedi cael ei lansio gan Technoleg Iechyd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar weithgarwch a lefelau perfformiad y GIG, gan gynnwys cynlluniau i leihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol, profion diagnostig, triniaeth ac i gael eu gweld mewn adran frys.
Nawr, mae HTW yn gwahodd gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal, datblygwyr technoleg, academyddion ac aelodau’r cyhoedd i gyflwyno eu hawgrymiadau am dechnolegau iechyd a gofal anfeddygol a allai helpu i ddatrys yr heriau hynny.
Bydd HTW, sy’n arfarnu technolegau iechyd a gofal anfeddygol ac sy’n cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ynghylch p’un a ddylid eu defnyddio yng Nghymru neu beidio, yn asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ar bob technoleg iechyd digidol a gyflwynir.
Dywedodd yr Athro Peter Groves, Cadeirydd HTW: Ein nod yw helpu i ddatblygu a mabwysiadu atebion iechyd a gofal yng Nghymru a allai gefnogi blaenoriaethau iechyd a gofal Llywodraeth Cymru.
“Mae effaith COVID-19 ar ein systemau iechyd wedi bod yn aruthrol, ac mae angen atebion arloesol i fynd i’r afael â heriau fel amseroedd aros hir i gleifion.
“Buasem yn apelio ar unrhyw un sydd â syniad am dechnoleg iechyd neu ofal anfeddygol ac sydd â’r potensial i fynd i’r afael â’r heriau hynny, i gysylltu.”
I gymryd rhan, ewch i’r dudalen Awgrymu Pwnc ar wefan HTW.