Mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol cyntaf

Mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi rhannu ei Adroddiad Blynyddol cyntaf (2023-2024).
Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ymchwil drylwyr, amserol a pherthnasol y Ganolfan Dystiolaeth, sy’n mynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth ar ran Llywodraeth Cymru, y GIG, Gofal Cymdeithasol Cymru, a rhanddeiliaid perthnasol eraill.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, derbyniodd y Ganolfan Dystiolaeth 145 o gwestiynau gan randdeiliaid, a derbyniwyd 29 o’r cwestiynau iechyd a gofal cymdeithasol hyn ar ein Rhaglen Waith.
Drwy gydweithio gyda phum partner, yr ydym ni’n un ohonynt, mae 14 darn o waith ymchwil eisoes ar gael yn Llyfrgell Adroddiadau’r Ganolfan.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bu Technoleg Iechyd Cymru yn gweithio gyda’r Ganolfan Dystiolaeth ar y canlynol:
- Ffactorau prognostig ar gyfer newid i iechyd llygaid neu’r golwg
- Mesur iechyd meddwl mewn argyfwng costau byw
Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Rwy’n falch iawn o rannu adroddiad blynyddol cyntaf y Ganolfan Dystiolaeth. Yn ystod ein blwyddyn gyntaf, gwnaethom archwilio ymchwil ym maes iechyd y cyhoedd, gofal cymdeithasol, gofal sylfaenol a meysydd lles. Mae ein canfyddiadau wedi dylanwadu a llywio llawer o bolisïau ac arferion iechyd Llywodraeth Cymru.”
Ychwanegodd Dr Ruth Lewis, Cyfarwyddwr Cyswllt y Ganolfan Dystiolaeth:
“Rydym yn ymfalchïo yn ein partneriaethau cydweithredol a’r gwaith effeithiol a wnaed yn ystod blwyddyn gyntaf y Ganolfan Dystiolaeth. Dros y pedair blynedd nesaf, byddwn yn parhau i gydweithio i fynd i’r afael ag ystod helaeth o faterion sy’n bwysig i bobl Cymru, gan geisio ehangu iechyd y cyhoedd a’u profiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal.”