Newyddion

12 Ionawr, 2026

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar abladiad thermol o fetastasis yr afu mewn pobl sydd â chanser y colon a’r rhefr

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd sy’n argymell mabwysiadu abladiad thermol fel mater o drefn i drin metastasis yr afu mewn oedolion sydd â chanser y colon a’r rectwm yng Nghymru, sy’n gymwys i gael echdoriad llawfeddygol.

 

Metastasis yw’r term am ganser sy’n lledaenu i ran arall o’r corff. Pan fydd canser yn dechrau yn y colon neu’r rectwm, mae metastasis yn aml yn cael eu canfod yn yr afu. Gelwir y rhain yn fetastasis yr afu mewn pobl sydd â chanser y colon a’r rectwm.

Fel arfer, gall y driniaeth fod yn llawdriniaeth i gael gwared ar ran o’r afu, math o echdoriad llawfeddygol. Fodd bynnag, gellir cynnig abladiad thermol i gleifion sydd ddim yn addas ar gyfer y llawdriniaeth hon.

Mae abladiad thermol yn driniaeth lle defnyddir gwres i ddinistrio celloedd canser.

 

Mae canllaw HTW yn argymell y gellir cynnig abladiad thermol hefyd i oedolion sy’n addas i gael echdoriad llawfeddygol fel dewis arall yn lle llawdriniaeth.

Yn ôl canllaw HTW, mae tystiolaeth bod abladiad thermol yn gyfwerth ag echdoriad llawfeddygol yn nhermau cyfraddau goroesi a chyfraddau goroesi heb i’r afiechyd waethygu. Canfu hefyd fod tystiolaeth o lai o gymhlethdodau a hyd arhosiad is yn yr ysbyty o’i gymharu ag echdoriad llawfeddygol.

Canfu dadansoddiad cost o’r driniaeth gan HTW y disgwylir i abladiad thermol fod yn opsiwn triniaeth sy’n arbed cost.

I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma.