Achludiad atodyn atrïaidd chwith mewn cleifion â ffibriliad atrïaidd

Statws Testun Cyflawn

Achludiad atodyn atrïaidd chwith mewn cleifion â ffibriliad atrïaidd

Canlyniad yr arfarniad

 

Nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi’r arfer o fabwysiadu achludiad atodiad atrïaidd chwith ymhlith oedolion â ffibriliad atrïaidd anfalfaidd na chymeradwyir cyffuriau gwrthgeulo drwy’r geg ar eu cyfer.

Nid oes unrhyw astudiaethau cymharol o achludiad dyfais atodiad atrïaidd chwith o gymharu â gofal safonol mewn oedolion â ffibriliad atrïaidd anfalfaidd na chymeradwyir cyffuriau gwrthgeulo drwy’r geg ar eu cyfer, er bod astudiaethau arsylwi anghymharol yn awgrymu bod achludiad atodiad atrïaidd chwith yn lleihau cyfraddau strôc isgemig.

Mae’r dadansoddiad cost-ddefnyddioldeb yn dod i’r casgliad, er y gallai achludiad atodiad atrïaidd (LAAO) yn ychwanegol at ofal safonol fod yn fwy effeithiol na gofal safonol gydag asbrin yn unig, mae’n gostus ac nid yw’n gost effeithiol gydag ICER o £42,302 fesul QALY.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Ffibriliad atrïaidd (AF) yw’r math mwyaf cyffredin o aflonyddwch rhythm y galon ac fe’i nodweddir gan guriad calon afreolaidd sy’n aml yn gyflym. Gan y gall ffibriliad atrïaidd arwain at stasis gwaed a chlotiau gwaed yn ffurfio yn y galon, argymhellir teneuwyr gwaed (cyffuriau gwrthgeulo drwy’r geg) fel warfarin a chyffuriau gwrthgeulo drwy’r geg sy’n gweithredu’n uniongyrchol, ar gyfer pobl ag AF i leihau’r risg o strôc. Fodd bynnag, ni all cyfran o bobl ag AF gymryd y cyffuriau hyn oherwydd amrywiaeth o wrtharwyddion, gan gynnwys hanes o waedu blaenorol.

Mae achludiad atodiad atrïaidd chwith (LAAO) yn driniaeth drwy’r croen sy’n cynnwys cyflwyno, drwy gylchrediad y gwaed, ddyfais sy’n rhwystro’n fecanyddol yr atodiad atriwm chwith, sach yng nghefn y galon y credir bod y rhan fwyaf o glotiau gwaed yn deillio ohono.

Ystyriodd HTW y pwnc hwn ar ôl iddo gael ei gynnig gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Ffibriliad atrïaidd yw rhythm calon (arhythmia) afreolaidd ac yn aml, cyflym iawn, sy’n gallu arwain at glotiau gwaed yn y galon. Mae’r clotiau gwaed hyn yn ffurfio yn y rhan o’r galon sydd yn cael ei adnabod fel yr atodyn atrïaidd chwith gan amlaf, sydd yn yr atriwm chwith. Nid yw Ffibriliad Atrïaidd yn peryglu bywyd fel arfer, ond os yw clot gwaed yn ffurfio, yna gallai arwain at strôc. Mae’n bwysig felly, bod Ffibriliad Atrïaidd yn cael ei reoli i atal strôc.

Mae gwrthgeulyddion yn feddyginiaethau sy’n ceisio atal clotiau gwaed, ac maen nhw’n cael eu hargymell i bobl sydd â Ffibriliad Atrïaidd, i atal strôc. Fodd bynnag, nid yw pawb yn gallu cymryd gwrthgeulyddion. Cynigir bod cau atodyn atrïaidd chwith y galon yn ddull amgen o atal clotiau gwaed mewn pobl sydd â Ffibriliad Atrïaidd, ac sydd ddim yn gallu cymryd gwrthgeulyddion. Mae cau atodyn atrïaidd chwith y galon yn fath o lawdriniaeth ar y galon, lle mae’r ddyfais cau atodyn atrïaidd chwith y galon yn cael ei gosod yn yr atriwm chwith, ac yn blocio’r rhan o’r galon lle mae clotiau gwaed yn fwyaf tebygol o ffurfio.

Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar gau atodyn atrïaidd chwith y galon i drin oedolion â ffibriliad atrïaidd, sydd ddim yn gallu cymryd gwrthgeulyddion. Nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi cau atodyn atrïaidd chwith y galon i drin oedolion sydd â ffibriliad atrïaidd nad yw’n ymwneud â’r falfiau, sydd ddim yn gallu cymryd gwrthgeulyddion drwy’r geg.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER309 09.2021

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR041 08.2022

Dogfennau ychwanegol

Access our guidance

Our advice documents are free to download, but we would be grateful if you could help us improve our services by telling us why you are looking at our advice and how you intend to use it.

  • bod posibiliad yr hoffem gysylltu â chi drwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch chi ddefnyddio'r dogfennau.

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.