Uwchsain â chymorth deallusrwydd artiffisial

Statws Testun Cyflawn

Uwchsain â chymorth deallusrwydd artiffisial ar gyfer canfod thrombosis gwythiennau dwfn

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae angen mwy o dystiolaeth ar ThinkSono Guidance ar gyfer canfod a diagnosio thrombosis gwythiennau dwfn.

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a adolygwyd, mae’r llwybr arfaethedig sy’n defnyddio ThinkSono Guidance yn gysylltiedig â chywirdeb diagnostig gwaeth o’i gymharu â gofal arferol.

Roedd cost-effeithiolrwydd y llwybr arfaethedig yn ansicr oherwydd nad oedd pris ThinkSono Guidance wedi’i benderfynu’n derfynol, ac roedd amcangyfrifon model yn sensitif i’r dewis o fewnbynnau a rhagdybiaethau.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Clot gwaed mewn gwythïen yw thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) a bydd fel arfer yn digwydd yn y goes. Os bydd rhan o’r clot gwaed yn torri i ffwrdd ac yn teithio i’r ysgyfaint, gall fod yn hynod beryglus. Ar hyn o bryd, gwneir y gwaith o ganfod a diagnosio DVT gan arbenigwyr, megis sonograffydd neu radiolegydd, mewn ysbyty ac mae’n cynnwys sgan uwchsain deuol. Fodd bynnag, yn y llwybr gofal presennol mae oedi mewn profion uwchsain, a allai arwain at fwy o ddefnydd o feddyginiaeth gwrthgeulo dros dro.

Cynigiwyd y gall uwchsain â chymorth deallusrwydd artiffisial (AI) gefnogi diagnosis mwy effeithlon o DVT. Mae system ThinkSono Guidance (AutoDVT gydag adolygiad gan glinigydd) yn defnyddio cymhwysiad ffôn clyfar AI a dyfais uwchsain llaw ar y pwynt gofal. Gellir ei wneud gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr a gallai, mewn egwyddor, alluogi diagnosis cyflymach pan gaiff ei ychwanegu at y llwybr gofal presennol. Gwneir defnydd arfaethedig o ThinkSono Guidance fel offeryn diystyru DVT agos, trwy flaenoriaethu’r achosion positif ac amhenodol fel rhai risg uchel i gael sgan uwchsain dilynol o fewn pedair awr yn unol ag argymhellion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

Cyflwynwyd y pwnc hwn gan wneuthurwr system ThinkSono Guidance, trwy Wasanaeth Arloesi’r GIG.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Beth yw thrombosis gwythiennau dwfn (DVT)?

Mae thrombosis gwythiennau dwfn, neu DVT, yn digwydd pan fydd clot gwaed yn ffurfio mewn gwythïen ddofn ac yn arafu neu’n rhwystro llif y gwaed. Mae’r prif symptomau’n cynnwys:

  • Y goes yn chwyddo
  • Poen neu dynerwch
  • Croen coch neu dywyllach
  • Croen cynnes dros y wythïen
  • Gwythiennau chwyddedig

Mae DVT fel arfer yn effeithio’r coesau, ond gall clot ffurfio mewn rhannau eraill o’r corff.

 

Pam mae DVT yn ddifrifol?  

Os yw rhan o’r clot yn torri i ffwrdd, gall deithio i’r ysgyfaint. Gelwir hyn yn emboledd ysgyfeiniol. Mae’n fygythiad i fywyd a bydd angen triniaeth frys.

 

Pwy sydd mewn perygl?

Gall unrhyw un ddatblygu DVT, ond mae rhai ffactorau’n ei gwneud yn fwy tebygol:

  • Mynd yn hŷn
  • Eistedd yn llonydd neu fod yn anactif am gyfnodau hir
  • Bod â phibellau gwaed sydd wedi’u difrodi
  • Cymryd rhai meddyginiaethau
  • Beichiogrwydd

Sut caiff DVT ei ddiagnosio fel arfer? 

Fel arfer bydd meddygon yn defnyddio dau brawf: prawf gwaed i chwilio am arwyddion o glot a sgan uwchsain mewn ysbyty, lle mae arbenigwr yn gwirio pa mor dda mae’r gwaed yn llifo trwy’r gwythiennau.

 

Beth yw uwchsain AI?

Gellir adeiladu deallusrwydd artiffisial (AI) i mewn i ddyfeisiau uwchsain bach a ddelir yn y llaw. Gall staff nad ydynt yn arbenigwyr uwchsain ddefnyddio’r rhain, mewn mannau fel meddygfeydd teulu neu glinigau cymunedol. Mae’r AI yn helpu’r defnyddiwr i wirio a allai clot fod yn bresennol. Mae hyn yn golygu y gellir nodi pobl sydd mewn mwy o berygl yn gynt a’u trin yn gyflymach.

 

Ar beth edrychodd Technoleg Iechyd Cymru?

Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar ddefnyddio uwchsain â chymorth AI i ganfod DVT. Mae angen mwy o dystiolaeth cyn y gellir gwneud argymhelliad.

Canllaw

GUI073 02.2026

GUI

Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR073 02.2026

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER593 05.2025 (superseded by EAR073 02.2026)