Awdioleg Gofal Sylfaenol

Statws Testun Cyflawn

Awdioleg gofal sylfaenol ar gyfer pobl sydd â symptomau sy'n gysylltiedig â'r glust neu'r clyw.

Arbenigeddau:  Clust, trwyn a gwddf; Darparu a threfnu gwasanaethau iechyd

Crynodeb

 

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar effeithiolrwydd clinigol a chosteffeithiolrwydd awdioleg gofal sylfaenol o’i gymharu ag ymgynghori gyda Meddyg Teulu neu nyrs practis ar gyfer pobl sydd â symptomau sy’n gysylltiedig â’r glust neu’r clyw. Adolygodd Grŵp Asesu HTW y pwnc hwn fel rhan o ymarfer blaenoriaethu ym mis Chwefror 2020, a daeth i’r casgliad na ddylid bwrw ymlaen â’r pwnc hwn ymhellach. Gellir ailedrych ar y pwnc hwn yn y dyfodol a’i addasrwydd ar gyfer asesiad llawnach.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER078 03.2020