Therapi ocsigen sy’n cael ei roi yn uniongyrchol ar y clwyf yn defnyddio pwysedd cylchol ysgafn

Statws Testun Anghyflawn

Therapi ocsigen sy’n cael ei roi yn uniongyrchol ar y clwyf yn defnyddio pwysedd cylchol ysgafn i helpu i wella clwyfau sy'n anodd eu gwella

Crynodeb

 

Mae therapi ocsigen sy’n cael ei roi yn uniongyrchol ar y clwyf yn driniaeth ar gyfer clwyfau cronig, anodd eu gwella, sy’n ceisio darparu mwy o ocsigen ar safle’r clwyf ei hun. Mae therapi ocsigen sy’n cael ei roi yn uniongyrchol ar y clwyf yn darparu ocsigen llaith gyda mwy o bwysedd, ac yn cywasgu’r clwyf yn araf heb ei gyffwrdd, gyda’r nod o helpu i gynyddu llif yr ocsigen a lleihau chwyddo. Y bwriad ydy ei ddefnyddio ochr yn ochr â gofal safonol ar gyfer anafiadau cronig.

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio therapi ocsigen sy’n cael ei roi yn uniongyrchol ar y clwyf i helpu i wella clwyfau sy’n anodd eu gwella