Cynhyrchion glanhau probiotig
Statws Testun Cyflawn
Cynhyrchion glanhau probiotig i leihau heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd mewn ysbytai
Crynodeb
Mae heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd (HCAIs) yn effeithio ar oddeutu 4% o gleifion mewn ysbytai acíwt a chymunedol yng Nghymru. Gall cynhyrchion glanhau probiotig fod yn opsiwn effeithiol arall yn lle arferion glanweithdra traddodiadol sy’n seiliedig ar gemegau, a gallant leihau nifer yr heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a geir mewn ysbytai.
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio systemau glanhau probiotig i leihau nifer yr heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd mewn ysbytai.
Ar sail y dystiolaeth a nodwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER583 03.2025