Defnyddio dyfais telemetreg i fonitro pwysedd mewngreuanol
Statws Testun Cyflawn
Defnyddio dyfais telemetreg i fonitro pwysedd mewngreuanol ar gyfer diagnosio a thrin cyflyrau niwrolegol.
Arbenigeddau: System nerfol
Crynodeb
Yn hanesyddol, mae monitro pwysedd mewngreuanol yn cael ei fesur yn fewnwthiol trwy osod cathetr yn yr ymennydd. Mae defnyddio dyfais telemetreg i fonitro pwysedd mewngreuanol yn golygu mewnblannu dyfais, sy’n trosglwyddo gwerthoedd pwysedd i ddarllenydd allanol. Gall y dyfeisiau hyn aros yn eu lle i’w defnyddio ar gyfer monitro pwysedd mewngreuanol dros y tymor hir mewn lleoliad cleifion allanol.
Bu ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru yn chwilio am dystiolaeth ar ddefnyddio dyfais telemetreg i fonitro pwysedd mewngreuanol ar gyfer diagnosio a thrin cyflyrau niwrolegol.
Ar sail y dystiolaeth a nodwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER417 10.2023