Dehongli ECG gyda chymorth AI

Statws Testun Cyflawn

Dehongli electrocardiogram gyda chymorth deallusrwydd artiffisial ar gyfer pobl yr amheuir bod ganddynt glefyd cardiofasgwlaidd mewn gofal sylfaenol/argyfwng

Crynodeb

 

Bu ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru yn chwilio am dystiolaeth ar effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd dehongli electrocardiogram gyda chymorth deallusrwydd artiffisial ar gyfer pobl yr amheuir bod ganddynt glefyd cardiofasgwlaidd mewn gofal sylfaenol/argyfwng. Yn seiliedig ar y dystiolaeth a nodwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i’r cam Arfarnu Tystiolaeth.