Offer digidol ar gyfer rheoli diabetes

Statws Testun Cyflawn

Platfformau digidol ar gyfer rheoli diabetes, addysg a chymorth wedi’u personoli mewn oedolion

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu platfform digidol MyWay Diabetes fel mater o drefn ar gyfer rheolaeth wedi’i phersonoleiddio, addysg a chymorth i bobl â diabetes math 2.

Mewn pobl â diabetes math 2 nad oes angen inswlin arnynt, mae platfform digidol MyWay Diabetes wedi’i gysylltu â gwell rheolaeth glycemig o’i gymharu â gofal safonol.

Mae modelu economaidd yn awgrymu bod MyWay Diabetes yn gost-effeithiol o’i gymharu â gofal safonol ar gyfer pobl â diabetes math 2 nad oes angen inswlin arnynt gyda chymhareb cost-effeithiolrwydd cynyddrannol (ICER) o £4,577 fesul blwyddyn o fywyd wedi’i haddasu gan ansawdd (QALY).

Nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi’r defnydd o blatfformau digidol eraill ar gyfer pobl â diabetes math 2 ac mae HTW yn argymell ymchwil pellach i’r defnydd o blatfformau digidol eraill ar gyfer rheolaeth bersonol, addysg a chymorth gyda’r cleifion hyn.

Nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu platfformau digidol fel mater o drefn ar gyfer rheolaeth wedi’i phersonoleiddio, addysg a chymorth i bobl â diabetes math 1. Mae HTW yn argymell ymchwil pellach ar ddefnydd platfformau o’r fath ar gyfer pobl â diabetes math 1.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae disgwyl i nifer yr achosion o ddiabetes yn y DU gynyddu ac ar hyn o bryd mae’n cyfrif am tua 10% o gyllideb flynyddol y GIG. Amcangyfrifir bod 80% o’r swm hwn yn cael ei wario ar drin cymhlethdodau diabetes. Cymru sydd â’r nifer uchaf o achosion o ddiabetes o gymharu â gwledydd eraill y DU. Mae addysgu’r rhai sydd â diabetes ynghylch y ffordd orau o reoli eu cyflwr yn un o’r ffyrdd y gellir gwella triniaeth diabetes a lleihau cymhlethdodau cysylltiedig. Gall offer a phlatfformau digidol, megis apiau symudol, gynorthwyo gyda hunan-reoli ac addysg ac felly gallant arwain at welliannau yn y ffactorau ffordd o fyw sy’n gysylltiedig â risg a datblygiad cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â diabetes. Ymhlith y platfformau digidol sydd wedi’u cynnwys yn yr adolygiad hwn mae’r rheini sy’n darparu cyngor wedi’i bersonoleiddio ac addysg y gellir eu llywio gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol neu drwy gymhwyso rheolau data. Cyflwynwyd y pwnc hwn gan Brif Swyddog Gweithredol/Cyd-sylfaenydd MyWay Digital Health, sy’n berchen ar bortffolio o blatfformau digidol sy’n cynnwys MyWay Diabetes, a elwid gynt yn My Diabetes My Way (MDMW).

Crynodeb mewn iaith glir

 

Mae diabetes yn gyflwr sy’n achosi lefel siwgr gwaed, neu lefel glwcos, person i fynd yn rhy uchel. Glwcos yw prif ffynhonnell egni’r corff, a gall y corff ei gynhyrchu yn ogystal â’i gymryd o fwyd sydd wedi’i fwyta. Mae lefelau glwcos yn y gwaed fel arfer yn cael eu rheoli gan hormon o’r enw inswlin. Mae inswlin yn helpu glwcos i fynd i mewn i gelloedd i’w ddefnyddio ar gyfer egni. I bobl nad ydynt yn cynhyrchu inswlin (diabetes math 1) neu nad yw eu corff yn defnyddio inswlin yn iawn (diabetes math 2), mae glwcos yn aros yn y gwaed ac nid yw’n cyrraedd celloedd. Gall hyn arwain at niwed i’r galon, yr arennau, y traed a’r llygaid. Felly mae’n bwysig monitro lefelau glwcos yn y gwaed a chymryd camau priodol os oes gormod neu rhy ychydig ohono.

Gall rheoli diabetes fod yn dasg enfawr a all gynnwys cymryd darlleniadau glwcos sawl gwaith y dydd, cymryd inswlin trwy chwistrelliadau neu systemau pwmp, cymryd meddyginiaeth a gwneud penderfyniadau bob dydd i helpu i ostwng neu godi lefelau glwcos. Gall bwyta rhai bwydydd ac ymarfer corff gael effaith fawr ar lefelau glwcos. Gall gwybod beth yw diabetes, sut y gellir ei reoli, a chael cymorth i wneud penderfyniadau helpu pobl â diabetes i reoli eu cyflwr yn well.

Gall offer digidol ar gyfer rheoli ac addysgu helpu oedolion â diabetes i reoli eu cyflwr gartref. Gellir eu defnyddio i helpu i wneud penderfyniadau da yn ogystal â chyfathrebu’n well â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar y defnydd o offer digidol ar gyfer rheoli ac addysgu mewn perthynas â diabetes. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu platfform digidol Diabetes MyWay fel mater o drefn ar gyfer rheolaeth bersonol, addysg a chymorth i bobl â diabetes math 2.

Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR054 12.2024

Canllaw

GUI054 12.2024

GUI