Monitro ffetws electronig gyda chymorth Deallusrwydd Artiffisial
Statws Testun Cyflawn
Monitro ffetws electronig gyda chymorth Deallusrwydd Artiffisial
Arbenigeddau: Obstetreg a gynaecoleg
Crynodeb
Mae monitro ffetws yn electronig yn cael ei ddefnyddio yn ystod esgor mewn beichiogrwydd risg uwch, i fonitro lles ac i ganfod unrhyw ostyngiad mewn dirlawnder ocsigen yn gynnar. Gall monitro ffetws gyda chymorth Deallusrwydd Artiffisial neu feddalwedd wneud yr wybodaeth yn fwy clir, cyflym a chywir i’w deall.
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol a’r effeithiolrwydd o ran cost o fonitro ffetws yn electronig gyda chymorth Deallusrwydd Artiffisial, o’i gymharu â ffyrdd confensiynol o fonitro.
Ar sail y dystiolaeth a nodwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER619 09.2025