Larymau ffitiau epileptig

Statws Testun Cyflawn

Technolegau gwisgadwy a thechnolegau gwely i ganfod ffitiau tonig-clonig mewn pobl ag epilepsi

Arbenigeddau:  System nerfol

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae angen mwy o dystiolaeth ar dechnolegau gwisgadwy a thechnolegau gwely ar gyfer canfod ffitiau tonig-clonig mewn pobl ag epilepsi.

Roedd tystiolaeth gyfyngedig o effeithiolrwydd clinigol ar gyfer technolegau gwisgadwy a thechnolegau gwely i ganfod ffitiau tonig-clonig mewn pobl ag epilepsi.

Nid oedd HTW yn gallu pennu cost-effeithiolrwydd o safbwynt Cymru oherwydd diffyg tystiolaeth i ddatblygu model economaidd.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae ffitiau tonig-clonig yn peri risgiau mawr, gan gynnwys anafiadau difrifol, a’r ffitiau hyn yw’r rhagfynegydd cryfaf o farwolaeth sydyn annisgwyl mewn epilepsi (SUDEP). Y tu allan i sefyllfa ysbyty, mae’r rhan fwyaf o bobl yn dibynnu ar fonitro gweithgarwch ffitiau yn anffurfiol, megis goruchwyliaeth gan ofalwyr neu declynnau monitro babanod, sydd yn aml yn annibynadwy. Amlygwyd yr angen am well dulliau canfod mewn amser real yn y cartref, yn enwedig ymhlith pobl heb oruchwyliaeth yn ystod oriau’r nos, gan niwrolegydd ymgynghorol GIG Cymru a gynigiodd y pwnc hwn i’w adolygu.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Beth yw Epilepsi? 

Mae epilepsi yn gyflwr sy’n effeithio ar yr ymennydd. Mae pobl sydd ag epilepsi fel arfer yn cael ffitiau. Yn dibynnu ar y math, gall ffit gynnwys:

  • y corff yn mynd yn stiff neu’n llipa
  • syrthio i’r llawr yn sydyn
  • symudiadau herciog neu wingo
  • pasio dŵr yn anfwriadol
  • colli ymwybyddiaeth – syllu i wagle a methu ag ymateb yn normal
  • teimladau anarferol, megis arogleuon rhyfedd, diffyg teimlad neu binnau bach, newidiadau yn y golwg, neu deimlo’n ofnus yn sydyn
  • ymddygiad anarferol, megis anesmwytho neu gerdded o gwmpas a diffyg ymwybyddiaeth

Gall ffit tonig-clonig effeithio ar ddwy ochr yr ymennydd o’r dechrau, neu gall ddechrau yn un ochr a lledaenu i’r llall.

Gall ffit fod yn beryglus, gan fod risg y gall arwain at anaf neu farwolaeth, yn enwedig pan fydd yn digwydd yn ystod cwsg. Mae angen monitro ffitiau pobl ag epilepsi i leihau’r risg hon a’u cadw’n ddiogel. Fodd bynnag, gall monitro fod yn anodd, yn enwedig dros nos, i bobl sy’n byw neu’n cysgu ar eu pen eu hunain. Defnyddir monitro ffitiau hefyd i helpu i lywio triniaeth.

 

Sut mae epilepsi yn cael ei fonitro? 

Mae pobl ag epilepsi yn dibynnu’n bennaf ar gymorth eraill i fonitro eu ffitiau. Gall rhai pobl ddefnyddio pethau megis teclynnau monitro babanod i’w helpu i rybuddio am synau neu symudiadau ffit.

 

Beth yw larymau epilepsi?   

Nod larymau epilepsi yw canfod pryd mae rhywun yn cael ffit. Gall larymau fod yn bethau fel oriawr epilepsi penodol neu fandiau braich, neu larymau gwely a/neu fatres. Mae’r dyfeisiau monitro yn defnyddio pethau fel synwyryddion gweithgaredd yr ymennydd, symudiad a/neu gyfradd curiad y galon i ganfod y gweithgaredd annormal sy’n gysylltiedig â ffitiau. Unwaith y canfyddir ffit, mae’r monitor yn sbarduno rhybudd trwy sain, dirgryniad neu hysbysiad i ofalwyr neu aelodau’r teulu. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dechnolegau penodol a argymhellir gan y GIG i’w darparu i bobl.

 

Beth wnaeth Technoleg Iechyd Cymru? 

Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth o ddefnydd larymau epilepsi. Mae angen mwy o dystiolaeth ar dechnolegau gwisgadwy a thechnolegau gwely ar gyfer canfod ffitiau tonig-clonig mewn pobl ag epilepsi.

 

Canllaw

GUI076 05.2026

GUI

Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR076 05.2026

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER609 07.2025 (wedi cael ei ddisodli gan EAR076 05.2026)