Hemodialysis yn y cartref
Statws Testun Cyflawn
Systemau dialysis yn y cartref cludadwy
Crynodeb
Mae hemodialysis yn fath o driniaeth ar gyfer pobl sydd yn dioddef methiant yr arennau.
Mae hemodialysis confensiynol yn cael ei roi mewn ysbyty neu mewn unedau dialysis lloeren, ond mae cael hemodialysis yn y cartref yn opsiwn i rai cleifion.
Mae hemodialysis yn y cartref yn osgoi’r angen i fynychu canolfannau triniaeth, ac yn gallu ei gwneud hi’n haws i gleifion ffitio hemodialysis i’w bywydau arferol, ac i weithio a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Mae systemau cludadwy yn bodoli, sy’n rhoi mwy o ryddid i gleifion deithio, sydd ddim angen cymaint o le neu gyfleusterau draenio dŵr, ac sy’n driniaeth sydd yn golygu nad oes angen gwneud addasiadau helaeth i’r cartref.
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o gael unrhyw system hemodialysis yn y cartref (cludadwy / dim yn gludadwy).
Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ganfuwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i’r cam arfarnu tystiolaeth.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER598 04.2025